Ces lifft gydag Alan S. a Haydn. Gadael Caerdydd tua 7.50 a chwrdd a'r lleill yn Newbridge, Dartmoor am 09.45. Yno yn disgwyl amdanom oedd Matt, Phil D., Adam, a rhai newydd i mi, sef Del, Nathan a Tom. Ar ôl mynd ar y dwr, a gweld Tom yn gorfod rolio dwywiath o fewn dau ganllath, fe ymrannom yn ddau grwp: fi, Matt, Phil, Alan a Haydn yn un. Roedd lefel y dwr yn isel, troedfedd o dan y silff garreg yn Newbridge a golygai hynny bod yr afon yn garregog iawn. Mae'r afon yn wych a'r daith yn gyffrous bron o'r dechrau. Ran amlaf cadw i'r chwith o'r ynysoedd sy yn rhoi'r llwybr gorau - heblaw wrth Raeadr Euthanasia lle mae eisiau bod ar y dde i'w redeg. Dyna'r unig ddarn gariais o gwmpas. Gan fod pawb wedi stopio i'w archwilio, doedd gen i mo'r hyder i'w redeg er mewn gwirionedd doedd e ddim yn edrych yn berygl - dim ond fod rhuthr y dwr ychydig yn fwy, a lwc yn hytrach na sgil, yn cael y rhan fwyaf i lawr yn ddibroblem. Y flwyddyn nesaf i mi efallai. Gorffennom tua 2.30 ac roeddwn yn ol gartref erbyn 17.45.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment