Thursday, September 24, 2009

Abereiddi i Draeth Mawr, Tŷ Ddewi, Sul 20 Medi

Teithiais i lawr i Sir Benfro brynhawn Dydd Sadwrn a chyrraedd gwersyll Hendre Einon tua 17.30. Cyrhaeddodd Emlyn o fewn awr ac wedyn aethom i mewn i Dŷ Ddewi a chael pryd o fwyd yn y Farmers. Galwon ni heibio ar yr Eades am sgwrs wedyn i drefnu'r diwrnod wedyn.

Gan fod Colin yn rhy siaradus roedd yn 11.30 yn mynd ar y môr yn Abereiddi a chwta hanner awr i fynd cyn i'r llanw droi i lifo i'r de-orllewin. Padlon ni i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn gyntaf gan anelu am Borthgain. Ond roeddem yn rhy hwyr. Trôdd y llawn ac roedd y môr yn rhy arw ger Penclegyr i ni fynd ymlaen. Troion ni a'r môr fel petai'n llonydd yn syth. Cawsom ragor o ddŵr garw ger Carreg-gwylan-fach ond ychydig iawn wedyn. Doedd dim lle i stopio i orffwys gwaetha'r modd gan fod môrlo ifanc ar bob traeth, heblaw am yr un tywodlyd olaf pan oeddem bron â chyrraedd Traeth Mawr. Cawsom ein bwyd ar hwn cyn mynd ymlaen at Draeth Mawr lle ymarferom rolio ac achub ayb.

Taith o ryw ddeg milltir, a'r daith at y traeth cinio yn rhyw 2 awr - a bron awr a hanner wedyn i chwarae a rolio. Gwych iawn unwaith eto: bron dim gwynt ac yn heulog. Arbennig am yr adeg o'r flwyddyn.

Tuesday, September 15, 2009

Ynys Echni eto byth! Dydd Sul 13 Medi



Yng nghwmni Emlyn a Rob, o Fae Jackson, Y Barri y tro hwn. Gadawom tua 11.50 a chymryd tua awr a thri chwarter i gyrraedd, tua awr cyn penllanw. Treuliom dros ddwy awr ar yr ynys y tro hwn, gan ei chrwydro tipyn. Un peth oedd yn wahanol oedd nad oedd gwylanod yno. Mae'n debyg eu bod yn symud oddi yno unwaith mae'r tywor nythu drosodd. Awr a thri chwarter gymrodd i fynd yn ôl hefyd ond tra oedd gwynt F3 wedi bod yn ein hwynebau yno, nid oedd gwynt o gwbl i'n helpu'n ôl.

Un digwyddiad werth ei gofnodi efallai oedd ein bod wedi clywed cyfeiriadau atom ddwywaith ar y VHF, y tro cyntaf gan longau oedd yn pasio'r naill ochr a'r llall i ni pan oeddem ar ein ffordd i'r ynys.

Tryweryn Dydd Sadwrn 5 Medi 2009




Ysgrifennais gofnod am y daith hon ar gyfer Padlwyr y Ddraig:

Does gen i fawr i'w hychwanegu, ac eithrio ychydig o luniau ohonof i'n serennu!

Thursday, September 3, 2009

Ynys Lihou, 27 Awst - 1 Medi

Gadewais Gaerdydd ar Ddydd Iau 27 Awst i fynd i'r symposium ceufadio'r môr cyntaf i'w gynnal ar Ynys Lihou oddi ar arfordir Guernsey. Cwrddais â Jonathan T. yn Poole a chroesi ar gwch cyflym Condor gan adael tua 16.00 a chyrraedd St Peter Port tua 19.00. Cyrhaeddom lan y môr ger Lihou tua 20.00 a gorfod croesi'r 150m o ddŵr yn y tywyllwch. Mae Lihou mewn sefyllfa debyg i Ynys Sili, ond ei fod wedi ei gwahanu o'r tir mawr yn llwyr adeg neaps.Roedd gyda ni Ddydd Gwener cyfan i ni'n hunain, gan nad oedd y symposium yn dechrau tan Ddydd Sadwrn. Yn anffodus, fe chwythodd y gwynt yn gryf - F6 i 7 - trwy Ddydd Gwener gan olygu nad oedd modd i ni fynd i geufadio.
Golygfa o ffenestr fy ystafell
Ar y Dydd Sadwrn, dewisais sesiwn hanner diwrnod o achub a rholio, ac wedyn taith o gwmpas y bae cyfagos - gan gynnwys mynd allan i Graig Gron lle roedd y dŵr yn o arw, ac yn ôl am hufen iâ - am y prynhawn.

Y bae
Dydd Sul, dewisais wneud taith diwrnod i'r de ac i St Peter Port. Roedd y môr yn eitha garw ac fe ddaeth Jonathan o'i gwch. Achubais i fe ond gan ei fod wedi blino'n lân roedd yn rhaid i'r arweinydd, Brian, ei dowio (ac Etienne yn ei dowio fe) i'r traeth agosaf (Petit Bot) olygodd 20 munud o waith caled iddynt a fi wedi rafftio wrth Jonathan.






Dydd Llun, dim ond fi oedd am fynd i oleudy Hanois yn y bore, felly ad-drefnwyd y sesiynau ac ymunais ag un am fordwyaeth olygodd padlo o gwmpas ynys fach Lihou, dysgu am wymon gan Richard, trefnydd tŷ Lihou, a chyfle arall i ymarfer rholio. Dyna oedd diwedd swyddogol y symposium ond yn y prynhawn wedyn aeth yr wyth ohonom oedd yn weddill mâs i oleudŷ Hanois. Cymerodd tua 40 munud i fynd ag 20 i ddod yn ôl. (Wel, ddwywaith mor hir i fynd ag i ddod yn ôl ta beth).

Goleudy Hanois

Teithio'n ôl trwy'r dydd ar Ddydd Mawrth wedyn.

Tŷ Lihou

Tywydd braf a gwyliau braf.