Teithiais i lawr i Sir Benfro brynhawn Dydd Sadwrn a chyrraedd gwersyll Hendre Einon tua 17.30. Cyrhaeddodd Emlyn o fewn awr ac wedyn aethom i mewn i Dŷ Ddewi a chael pryd o fwyd yn y Farmers. Galwon ni heibio ar yr Eades am sgwrs wedyn i drefnu'r diwrnod wedyn.
Gan fod Colin yn rhy siaradus roedd yn 11.30 yn mynd ar y môr yn Abereiddi a chwta hanner awr i fynd cyn i'r llanw droi i lifo i'r de-orllewin. Padlon ni i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn gyntaf gan anelu am Borthgain. Ond roeddem yn rhy hwyr. Trôdd y llawn ac roedd y môr yn rhy arw ger Penclegyr i ni fynd ymlaen. Troion ni a'r môr fel petai'n llonydd yn syth. Cawsom ragor o ddŵr garw ger Carreg-gwylan-fach ond ychydig iawn wedyn. Doedd dim lle i stopio i orffwys gwaetha'r modd gan fod môrlo ifanc ar bob traeth, heblaw am yr un tywodlyd olaf pan oeddem bron â chyrraedd Traeth Mawr. Cawsom ein bwyd ar hwn cyn mynd ymlaen at Draeth Mawr lle ymarferom rolio ac achub ayb.
Taith o ryw ddeg milltir, a'r daith at y traeth cinio yn rhyw 2 awr - a bron awr a hanner wedyn i chwarae a rolio. Gwych iawn unwaith eto: bron dim gwynt ac yn heulog. Arbennig am yr adeg o'r flwyddyn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment