Saturday, August 21, 2010
Afon Menai, Dydd Mawrth 17 Awst 2010
Cychwynnais o Bwll Fanogl (i'r gorllewin o golofn Nelson "England expects...") a mynd yn syth am Bont Menai. Roedd y llanw newydd droi a doedd gen i ddim llawer o amser i fynd yno a medru cyrraedd yn ôl. Roedd dau grŵp o ganŵyr dan hyfforddiant allan, yn disgwyl i'r llif gynyddu iddynt fedru ymarfer torri i mewn a sylwais ar dri cheufadiwr arall ar y lan ychydig cyn Pont Britannia hefyd yn cymryd hoe. Es i lawr i'r Felinheli wedyn a phrynu brechdan caws drud iawn yn y dafarn a'i bwyta wrth fwrdd y tu allan. Doedd y tywydd ddim hanner cytsal â'r diwrnod cynt. Ar yr afon doedd bron dim gwynt (F3-4 o'r gogledd orllewin oedd hi i fod) ond doedd fawr o heulwen chwaith, er ei bod yn sych. Fe welais wn i ddim faint o grëyrod ar lan Ynys Môn. Ymarfer rolio ar y diwedd yn iawn, ond yr ymarfer allan o'r cwch a rolio i fyny wedyn yn fethiant. Doedd dim digon o bŵer ar ôl yn y GPS i'w ddefnyddio ond, o edrych ar y map, rwy'n amcangyfrif mai rhyw 7 milltir o daith i gyd oedd hon.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment