Es i gwrdd â Colin a Sue a Dr Mike fore Dydd Gwener 5 Gorff. yn fferm West Hook, Martin's Haven, i badlo o gwmpas Ynysoedd Skomer a Skokholm. Cwrdd am 11 ac roeddem yn anelu bod ar y dŵr tua 1 o'r gloch. Dydd Gwener oedd y diwrnod cyntaf i gael gwynt teg ers sbel ac o ganlyniad roedd y môr yn eithaf garw o hyd pan aethom o gwmpas Skokholm. Erbyn i ni gyrraedd y gornel ar Skokholm cyn cychwyn yn ôl daeth niwl i mewn. Yn ffodus, doedd e ddim mor drwchus fel na allom weld tua 200m ac o ganlyniad roeddem yn gallu gweld y creigiau yn y môr o'n blaen wrth ddod o gwmpas y gornel.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb68034016d8dea&msa=0&ll=51.718946,-5.280476&spn=0.062213,0.154324
Tynnais lun o Skomer gda'r hwyr. http://twitpic.com/d10cfp/full
Aeth Dr Mike adre Dydd Gwener a dim ond y tri ohonom oedd ar ôl Dydd Sadwrn. Aethom o Martin's Haven i Sain Ffrêd.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb61eb2a98bac8b&msa=0&ll=51.755196,-5.208721&spn=0.062163,0.154324
Ar y Dydd Sul, es ar fy mhen fy hun i Sain Ffrêd eto, ond gan ddechrau o'r Hafan Gul.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb6f0dff5c70fbc&msa=0&ll=51.764972,-5.147438&spn=0.06215,0.154324
Ar draeth Sain Ffrêd cwrddais â dyn oedd ar fin gadael yn ei geufad. Ces wybod mai Simon Ford oedd ei enw a'i fod yn hyfforddi i geufadio ar ei ben ei hun o gwmpas Cymru, gan godi arian at ysbyty Felindre. Newydd ddarllen ei stori ydw i yma: http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/sponsored-kayak-challenge-held-memory-5318874
http://www.justgiving.com/LookingOutForLinda
Des o hyd i'r adroddiadau canlynol amdano hefyd:
http://www.mayberrykayaking.co.uk/looking-out-for-linda/
http://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fbhttp://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fb
Ar ôl i mi gael tamaid o bicnic cychwynnais i ffwrdd a dal lan gyda Simon. Roedd y gwynt wedi codi i F3 i'n hwyneb ar y ffordd yn ôl. Pan gyrhaeddom yr Hafan Gul eto, sylweddolais fod y dŵr yno'n dwym a chydiais yn y cyfle i ymarfer rôl (x2) a mynd allan o'r cwch, mynd yn ôl iddo a rolio - i gyd yn llwyddiannus. Ac fe es am goffi gyda Simon wedyn a dymuno'n dda iddo am ei daith.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment