Roedd pedwar ohonom, fi, John N., Grant ac Emlyn wedi mynd i aros dros y penwythnos yn fflat John yn yr Hafan Gul. Wedi gwylio'r Llewod yn curo Awstrali yn nhafarn y Castell yn y bore, gyda gwynt F6 a chwaon F7 o'r de orllewin wedi eu rhagweld doedd dim dewis yn Sir Benfro mewn gwirionedd ond taith ar afon Cleddau.
Cychwynom o Fferi Burton (ger Tafarn y Jolly Sailor), tua 16.20, rhy hwyr mewn gwirionedd, llai na thair awr cyn penllanw (roedd y distyll am 13.00). (Tri diwrnod cyn Springs 7.4m). Cawsom y gwynt ar ein cefnau am ran helaeth o'r daith ond gwyrodd y gwynt i'r gorllewin ac roedd yn ein hwynebau wrth i ni fynd heibio i Hook. Cyrhaeddom Hwlffordd a phenllanw newydd fod ac roedd modd i ni badlo i lanio ar wair ar ochr dde'r afon. Ystadegau'r daith: 11.5 milltir y tir, 2 awr 54 munud. Cyflymder cymedrig: 3.97 milltir yr awr, cyflymder uchaf 7.46 milltir yr awr.
Map Google o'r daith
Cawsom bryd da yn y Jolly Sailor pan gyrhaeddom yn ôl yn Fferi Burton i godi'r car oedd wedi ei adael yno.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment