Sunday, November 21, 2004
Afon Grwyne Fawr, Tach. 21.
Ar ôl diflastod peidio padlo y penwythnos cynt, roedd hi'n braf mynd ar afon newydd i mi. Dim ond un arall oedd gyda fi, sef John C., fy nghydymaith ffyddlon. Parcion ni wrth neuadd pentref Glangrwyne cyn cychwyn am Bont Cym Fach. Oedion ni wrth gored (erchyll o berygl mewn dwr mawr) Llandenny (beth yw'r sillafiad cywir yn Gymraeg tybed?). Roedd y mesur lefel dwr yno yn dangos 3, sy, meddai'r arweinlyfr awdurdod, braidd yn isel. Oedd, mi roedd tipyn o grafu ar y ffordd i lawr ond cawsom fwynhad mawr. Digon i'n diddori. Byddai modfedd neu ddwy yn rhagor o ddwr yn hwyluso pethau (ac yn osgoi taro'r gwaelod ar ffordd i lawr un rhaeadr - Penydaren os cofiaf yn iawn) ond roedd yn braf iawn fel yr oedd. Gobeithio y daw cyfle arall yn mynd eto cyn bo hir. O, a chan bod traddodiad yn codi yn y cofnodion hyn fy mod yn cofnodi manylion cael peint - roedd tafarn ("Blue Bell") yn gyfleus iawn yng Nglangrwyne. Taith rhyw ddwy awr oedd hi - o 11 tan 1 - felly roeddem yn y dafarn erbyn 2!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment