Sunday, April 18, 2010
Penarth i Ynys Echni 18 Ebrill 2010
Ychydig o wynt oedd i fod eto felly dyma fi'n bachu yn y cyfle am dro arall i Ynys Echni ar fy mhen fy hun eto (er wrth i mi gychwyn cwrddais â dau geufadiwr arall - un ohonynt yn rhoi ceufad - ? Klepper - at ei gilydd ac a ddywedodd eu bod yn mynd i'r ynys). Roedd y llanw i fod i droi i lanw i'r gogledd ddwyrain tua 16.30 felly y tro yma roedd yn rhaid i mi gychwyn o Benarth. Gadewais Benarth tua 15.oo ac fe gymerodd 53 munud i mi gyrraedd yr ynys, a'r un amser i ddod yn ôl! 7.56 milltir y môr, cyflymder cymedrig 4.2 knt, cyflymder uchag 6.1 knt. Rwyf wrth fy modd ag Ynys Echni!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Hywel, Meddwyl dy fod i wedi cwrdd a Stuart a'i ffrind
http://seakayaking-stuart.blogspot.com/2010/04/flat-holm-island-180410.html
Trip neis iawn, amser i fi mynd an ôl eto yn fuan
Post a Comment