I Ynys Echni o Swanbridge eto, y tro hwn yng nghwmni Rob, John N. a Paul C.J. Y gwynt yn F4 i ddechrau ond wedi gostegu erbyn i ni ddychwelyd diolch byth. Heblaw fod yn rhaid i mi weiddi ar y ddau olaf ar y ffordd adre gan nad oeddynt yn edrych i weld lle roedd Rob, roedd yn ymweliad gwych eto â'r ynys - oedd bron yn ddi-wylan erbyn hyn.
Monday, October 15, 2012
Afon Wysg, Dydd Sadwrn 18 Awst 2012
Gyda'r Eades, o Dal-y-bont i Grughywel, eto - a lefel y dŵr yn uwch nag oedd ar y daith ddiwedd ac efallai'n uwch nag oedd drwy'r gaeaf pan oeddwn i ar yr afon. Roedd y dŵr ger Spuller's Folly yn gyfareddol. Roedd y dŵr mor uchel nad oedd prin cwymp yn mynd i lawr ochr chwith yr afon, a'r dŵr yn byrlymu - bron fel pe tai'n bwrw eira - ac yn ddisglair yn yr heulwen braf. Roedd yn debyg i geufadio yn yr Alpau eto. Arbennig.
Llanilltud Fawr, Dydd Gwener 10 Awst 2012
Ar fy mhen fy hun eto, a diwrnod braf eto. Es o Fae Dwnrafen i Lanilltud Fawr ac yn ôl. Roeddwn i wedi ei gadael braidd yn hwyr cyn gadael ac roedd y llanw'n dechrau troi wrth i mi fynd heibio i drwyn Nash. Cadwais i mewn yn agos at y clogwyni a doedd y dŵr ddim yn arw ond ddim yn llonydd chwaith - fydd hi byth bron yn llonydd yno. Tynnais gwpl o luniau ar y ffordd yn ôl. Mwynheais y daith heddiw'n well na'r daith y diwrnod cynt hyd yn oed.
Sain Dunwyd |
Goleudŷ Nash |
Ynys Bŷr, Dydd Iau, 9 Awst 2012
Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol oedd hon. Es i'r maes y diwrnod cynt ond roedd y tywydd yn rhy braf i fynd i grwydro'r Maes eto. I lawr i Amroth â fi felly a phadlo (gwrth-clocwedd) o gwmpas Ynys Bŷr. Welais i ddim llawer o fôrloi ar yr ynys ond es yn ôl heibio i'r creigiau (sy'n diflannu adeg amser llawn - dydw i ddim eu henw) ac roedd llawer yno. Ymarferais rolio ar y diwedd yn Amroth, er mwyn oeri cymaint â dim.
Craig Tusker, Dydd Sul 5 Awst 2012
Es ar fy mhen fy hun o Fae Dwnrafn i Graig Tusker ac yn ôl. Doedd y tywydd ddim yn wych ond doedd y môr ddim yn arw chwaith, er bod ychydig o donnau wrth i mi fynd o gwmpas yr ynys. Glaw ar y ffordd yn ôl ond yn braf eto erbyn fy mod yn y maes parcio.
Sunday, October 14, 2012
Ynys Echni, Dydd Sadwrn 21 Gorff. 2012
Rhosneigr, Dydd Sadwrn 14 Gorff. 2012
Fel y'i cofnodais ar Twitter: 'Cylchdaith fer geufadio môr heno, o Draeth Llydan Rhosneigr heibio i Ynys Meibion at Garreg-y-trai ger Aberffraw. Da fod nôl ym Môn.'
Afon Wysg, Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012
Es gyda'r Eades ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Grughywel. Mae mynd ar afonydd yn yr haf yn annaturiol i mi: does dim digon o ddŵr i fod yn ynddynt yn yr haf ond mae hen ddigon eleni!
Afon Irfon, 9 Mehefin
Es am daith gyda Phadlwyr y Ddraig. Ysgrifennais gofnod ar eu blog: http://dragon-paddlers.blogspot.co.uk/2012/06/afon-irfon-saturday-9-june-2012.html
Subscribe to:
Posts (Atom)