Showing posts with label Craig Tusker. Show all posts
Showing posts with label Craig Tusker. Show all posts

Tuesday, June 18, 2013

Llanilltud Fawr - Aberogwr, Dydd Sadwrn, 16 Chwefror 2013

Trefnais y daith hon gyda Rob, Emlyn, Paul, Chris, a Jim. Y cynllun oedd: penllanw tua 10.15. Cwrdd yn Aberogwr tua 10.30, bod ar y dŵr yn Llanilltud tua 11.45 a chyrraedd Aberogwr tua 14.30. Roeddem lawer yn hwyrach na hynny. Yn gyntaf, pan oeddem bron yn barod i gychwyn sylweddodd Rob nad oedd spraydec ganddo. Aeth i dŷ Chris i nôl un. Wedyn, meddylion y byddai'n syniad mynd i graig Tusker ond roeddem yn rhy gynnar. Oedon ni'n hir ym mae Dwnrafn felly'n syrffio ar donnau bach (roedd yn ddiwrnod braf er braidd yn wyntog pan oeddem yn newid ar y dechrau yn Aberogwr).

Taith braf.

Monday, October 15, 2012

Craig Tusker, Dydd Sul 5 Awst 2012

Es ar fy mhen fy hun o Fae Dwnrafn i Graig Tusker ac yn ôl. Doedd y tywydd ddim yn wych ond doedd y môr ddim yn arw chwaith, er bod ychydig o donnau wrth i mi fynd o gwmpas yr ynys. Glaw ar y ffordd yn ôl ond yn braf eto erbyn fy mod yn y maes parcio.

Sunday, June 3, 2012

Craig Tusker, Dydd Sul 26 Chwefror 2012

Es gyda Chris ac Eurion. Syrffio da ar y diwedd ym mae Dwnrafen.

Monday, September 27, 2010

Southerndown - Craig Tusker, Dydd Sul 26 Medi

Taith gydag Emlyn, Eurion a Paul. Roedd Paul wedi dod i gysylltiad â fi trwy Badlwyr y Ddraig yr wythnos gynt am ei fod wedi troi o afonydd i badlo ar y môr yn ddiweddar. Ar awgrym Eurio, aethom mâs at fwoi "Mid Nash" i ddechrau, tua dwy filltir o'r lan. Cawsom gymorth gan y gwynt F2/3 o'r gogledd-orllewin a oedd yn gwrthwiethio effaith y llanw. Ar ôl mynd o gwmpas y bwoi troiom i'r gorllewin tuag at graig Tusker. Daethom ar draws ddarn garw lle syrffiom ychydig gan geisio mynd i'r gogledd. Weithiodd hynny ddim ac fe benderfynom droi a mynd trwy'r tonnau. Aethom trwy'r dŵr garw yn sydyn wedyn. Cyrhaeddom Tusker pan oedd hi'n ddistyll mwy neu lai (tua 14.30 - ac roeddem wedi cychwyn tua 12.50). Cawsom frechdan a sylwi ar lawer o grancod cragen yn y pyllau. Pan gyrhaeddom yn ôl roedd ychydig o syrff - hen ddigon i geufadau'r môr! -ac fe dreuliom dipyn o amser yn chwarae. Diwnod braf a llawer o hwyl.

Thursday, February 19, 2009

Teithiau hyd yma yn 2009

Dydd Calan, yng nghwmi Eurion a Richard Mordey, mewn tywydd oer iawn, taith gylchol o Southerndown, mâs i Graig Tusker, ac yn ôl. Dim ond rhyw 2 awr o daith ond yn fwy o waith na'r disgwyl, gyda'r gwynt yn rhyw F5 yn ein herbyn o Graig Tusker roedd yn rhaid i ni weithio'n galed i gyrraedd y lan ger Aber Ogwr. Dychwelon i dy Eurion wedyn am baned ac i ddadmer.


Taith gyda Colin a Sue E, Mark, Del, John C ac Euros ar Afon Tywi, y rhan gradd 2-3 i lawr at Ddolauhirion. Nofiodd John a Mark!

Taith ar Afon Ogwr, o Felin Ifan Ddu i Sarn (wedi ei chofnodi ar flog Padlwyr y Ddraig http://www.dragon-paddlers.blogspot.com/)

Rhyw 4 taith syrffio i Rest Bay, Porthcawl, gan gynnwys un penwythnos pan es gydag Euros ar y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul.

Dydd Llun 16 Chwefror, taith ar fy mhen fy hun o Rosneigr heibio i Borth Cwyfan i'r penrhyn cyn Aberffraw, ac yn ôl i Rosneigr, rhyw 2 awr a hanner o daith. Ac eithrio tipyn o ymchwydd ger Meini'r Meibion (overfall bach?) roedd y môr yn eitha llonydd, gwynt F2-3 o'r gorllewin.