Showing posts with label Afon Cleddau. Show all posts
Showing posts with label Afon Cleddau. Show all posts

Monday, June 24, 2013

Fferi Burton i Hwlffordd, Dydd Sadwrn, 22 Mehefin 2013

Roedd pedwar ohonom, fi, John N., Grant ac Emlyn wedi mynd i aros dros y penwythnos yn fflat John yn yr Hafan Gul. Wedi gwylio'r Llewod yn curo Awstrali yn nhafarn y Castell yn y bore, gyda gwynt F6 a chwaon F7 o'r de orllewin wedi eu rhagweld doedd dim dewis yn Sir Benfro mewn gwirionedd ond taith ar afon Cleddau.

Cychwynom o Fferi Burton (ger Tafarn y Jolly Sailor), tua 16.20, rhy hwyr mewn gwirionedd, llai na thair awr cyn penllanw (roedd y distyll am 13.00). (Tri diwrnod cyn Springs 7.4m). Cawsom y gwynt ar ein cefnau am ran helaeth o'r daith ond gwyrodd y gwynt i'r gorllewin ac roedd yn ein hwynebau wrth i ni fynd heibio i Hook. Cyrhaeddom Hwlffordd a phenllanw newydd fod ac roedd modd i ni badlo i lanio ar wair ar ochr dde'r afon. Ystadegau'r daith: 11.5 milltir y tir, 2 awr 54 munud. Cyflymder cymedrig: 3.97 milltir yr awr, cyflymder uchaf 7.46  milltir yr awr.

Map Google o'r daith

Cawsom bryd da yn y Jolly Sailor pan gyrhaeddom yn ôl yn Fferi Burton i godi'r car oedd wedi ei adael yno.

Monday, October 24, 2011

Neyland- Hwlffordd, Dydd Sul 23 Hydref 2011

Awgrymodd Andrew B y daith hon, lan Afon Cleddau. Roedd hi fod yn ddistyll yn Neyland tua 10 ac yn benllanw (rhwng Springs a Neap) tua 16.00. Parciais fy nghar yn Hwlffordd a gyrron ni i lawr i Neyland a pharcio ger y clwb hwylio. (Roedd yr afon yn llifo'n gryf yn Hwlffordd ac roeddwn yn gobeithio'n fawr na fyddai fel hynny pan gyrhaeddem yn ôl).

Roedd y gwynt yn eithaf cryf, F4 neu'n fwy o'r de de ddwyrain ac o'r herwydd, ar ein cefnau bron yr holl amser. 2 awr 35 munud o badlo ac fe gyrhaeddodd Hwlffordd. Roedd yr aber yn braf, yn enwedig yr holl adar, gwyddau'n bennaf ond ambell gylfinir, ger Milffwrdd Bach, a'r corsennau tal - 8 troedfedd? - ar ddwy ochr yr afon wrth nesáu at Hwlffordd. Dewis da o daith gyda'r tywydd oedd gennym.