Taith gyntaf y flwyddyn. Es gyda Nige a oedd yn arwain, gan roi i mewn yn is i lawr yr afon - ym Mrynmenyn os cofiaf yn iawn - gan orffen ger y ganolfan hamdden yng nghanol y dref. Roedd lefel y dŵr yn ganolig a chafwyd amser digon dymunol (a'r afon ddim yn drawiadol o drewllyd).
Showing posts with label Ogwr. Show all posts
Showing posts with label Ogwr. Show all posts
Monday, June 10, 2013
Thursday, February 19, 2009
Teithiau hyd yma yn 2009
Dydd Calan, yng nghwmi Eurion a Richard Mordey, mewn tywydd oer iawn, taith gylchol o Southerndown, mâs i Graig Tusker, ac yn ôl. Dim ond rhyw 2 awr o daith ond yn fwy o waith na'r disgwyl, gyda'r gwynt yn rhyw F5 yn ein herbyn o Graig Tusker roedd yn rhaid i ni weithio'n galed i gyrraedd y lan ger Aber Ogwr. Dychwelon i dy Eurion wedyn am baned ac i ddadmer.
Taith gyda Colin a Sue E, Mark, Del, John C ac Euros ar Afon Tywi, y rhan gradd 2-3 i lawr at Ddolauhirion. Nofiodd John a Mark!
Taith ar Afon Ogwr, o Felin Ifan Ddu i Sarn (wedi ei chofnodi ar flog Padlwyr y Ddraig http://www.dragon-paddlers.blogspot.com/)
Rhyw 4 taith syrffio i Rest Bay, Porthcawl, gan gynnwys un penwythnos pan es gydag Euros ar y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul.
Dydd Llun 16 Chwefror, taith ar fy mhen fy hun o Rosneigr heibio i Borth Cwyfan i'r penrhyn cyn Aberffraw, ac yn ôl i Rosneigr, rhyw 2 awr a hanner o daith. Ac eithrio tipyn o ymchwydd ger Meini'r Meibion (overfall bach?) roedd y môr yn eitha llonydd, gwynt F2-3 o'r gorllewin.
Subscribe to:
Posts (Atom)
