Sunday, March 20, 2005

Porthcawl 20 Mawrth

Sesiwn syrffio da heddiw yng nghwmni Matt. Roedd y gwynt oddi ar y lan yn tasgu'r ewyn cymaint fel prin y gallwn weld wrth ddechrau i lawr y tonnau. Doedd y dwr ddim mor oer chwaith ag oeddwn wedi ei ddisgwyl - tua 10 gradd mae'n debyg - dyna ddywedodd darlleniad buoy ger Sir Benfro.

Rwyf wedi esgeuluso cofnodi pethau yn ddiweddar. Dyma gofnod yr felly fy mod wedi bod ar y môr gyda Grant Dydd Sul diwethaf, o Syli i drwyn Larnog eto - ac fy nwylo yn rhewi ar ôl awr a hanner. Ac ar 26 Chwefror mynychais sesiwn i hyfforddwr y De-Ddwyrain yng nghanolfan Channel View a dysgu gan Sid Sinfield am y newidiadau y bwriedir eu gwneud i'r gyfundrefn cymwysterau hyfforddi.

Sunday, February 20, 2005

Afon Dart, Sadwrn 12 Ionawr

Taith gyda Pdadlwyr y Ddraig - Andy R, Grant, Rob, Matt, Luke a John M. - i ran ganol Afon Dart. Yn wahanol i'r llynedd, cawsom y dwr yn eithaf uchel. Doedd yr afon ddim yn fwy anodd oherwydd hynny chwaith, dim ond bod rhai o'r llefydd chwarae arferol wedi diflannu.

Thursday, February 17, 2005

Rhoscolyn

Cefais daith fer ar y mor heddiw o'r Borthwen, Rhoscolyn allan i Ynysoedd Gwylanod ac i lawr i Draeth Llydan.

Sunday, January 23, 2005

Afon Afan, Sul 23 Ionawr

Y tro cyntaf i mi fynd ar yr afon hon, yn anffodus dewison ni yn annoeth: doedd dim digon o ddwr yn yr afon a dweud y gwir a bu llawr o grafu ar y cychod i'w cael nhw i lawr. Er hynny, roedd hi'n ddiwrnod braf - yr haul yn tywynnu yn ein llygaid llawer o'r amser a haenen o eira i'w gweld ar lethrau y bryniau o'n cwmpas yn y dyffryn hardd. Mewn dau le roedd pibellau yn croesi'r afon a bu'n rhaid cario'r cychod heibio. Wrth roi i mewn wedyn mewn pwll o dan yr ail bibell, gwelson eog!

Sunday, January 16, 2005

Afon Rhondda Fawr, Dydd Sul 16

Doeddwn ni ddim wedi bod ar yr afon hon ers 2 flynedd o leiaf. Pryd hynny, bues yn ddifrifol o sâl. Rhoes y bai ar ansawdd dwr yr afon a thyngais lw i mi fy hun na fyddwn ym mynd arni byth eto. Ond awgrymodd John C. y byddai'n braf ei gwneud eto, ac mae'r cof wedi pylu, felly dyma fi'n mynd gyda John, Matt a Rob. Hwn oedd y tro cyntaf i Rob a Matt fynd arni. Roedd lefel y dwr yn isel ond doedd hynna'n ddim rhwystr i mi rolio ar ôl dod drwy'r bond ar ddechrau y darn gradd 3/4! Heblaw am hynny, dim problem. Rhaid aros am ychydig o ddyddiau cyn gweld a fydd y dwr yn fy nghael yn y pendraw.

Sunday, January 9, 2005

Afon Tawe, 9 Ion. 2005

Cychwynnais yng nghwmni John C., Alan a Haydn am Afon Nedd Fechan ond pan gyrhaeddon ni dyfarnodd Alan fod lefel y dwr yn rhy isel. Gan fy mod wedi rhagweld y posiblrwydd, ac wedi ymchwilio i sefyllfa mynediad Afon Tawe aethom yno yn lle.

Wrth stopio yn Abercrâf, death menyw o dy cyfagos gan weiddi nad oeddem yn cael canwio ar yr afon. Roedd yn bleser pur dangos copi o'r cyntundeb mynediad a gytunwyd rhwng Cymdeithas Ganwio Cymru â'r gymdeithas bysgota leol. "oh, mae'n rhaid bod pethau wedi newid felly" dywedodd yn siomedig. Byddai'n well i'r pysgotwyr fod yn poeni am ansawdd y dwr: roedd e'n drewi mewn sawl man, a'r diesel ynddo yn amlwg mewn mannau. Doedd dim hanner cymaint o fywyd gwyllt i'w weld ag sy'n arferol ar Afon Taf. DIm un creyr na glas y dorlan.

Beth bynnag, er nad oedd llawer o ddwr yn Afon Tawe chwaith, teithion ni i lawr o Abercrâf i Ystalyfera. Llawer o goredi, a cheunant braf bron ar y dechrau.

Afon Wysg, Tal-y-bont - Llangynidr, Dydd Mercher 29 Rhagfyr

Aeth saith ohonom - fi, Rob, Grant, Andy R., Matt, John N. a John M. ar y daith hon. Dim ond ail daith John M. ar afon oedd hon. Rhoddodd achos i mi ymarfer techneg achub ymestyn pan aeth yn sownd o dan wreiddiau oedd dros y lan ar dro. Defnyddiol iawn. Roedd lefel y dwr ychydig yn uwch na'r tro diwetha i mi fynd - a'r tonnau ddim cystal o'r herwydd.