Yng nghwmni Eurion, Adrian, Jim, a , hyd at Cold Knap, Neal. Cychwynnon tua 09.30 - hanner awr cyn penllanw - a throi i mewn i wynt G4 wnaeth hi'n dipyn o frwydr at Cold Knap lle gadawodd Neal, ac wedyn hyd at Aberthawan lle stopion ni am ginio.
Gostegodd y gwynt wedyn, lllonyddodd y mor, a bu'n llawer yn fwy cyfforddus ac yn haws. Yn Sain Dunwyd, roedd yr heddlu: yn disgwyl llwytho corff i ambiwlans. Roedd bad achub Coleg yr Iwerydd wedi dod o hyd iddo ar draeth: rhywun wedyn neidio oddi ar y clogwyni tebyg. Cyrhaeddon Sain Dunwyd tua 14.30 os cofiaf yn iawn. Mae mwy o fanylion am y daith wedi eu blogio gan Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/Monday, February 4, 2008
Afon Afan, Dydd Sadwrn 12 Ionawr
Tuesday, January 1, 2008
Taith ar y môr, o Lanilltud Fawr i Aberogwr, 1 Ionawr 2008
Saturday, December 29, 2007
Rhagfyr 1, 6, 16, 24 a 29.
Sunday, November 18, 2007
Dydd Sul 18 Tachwedd Afon Taf
Tags: Afon Taf
Tuesday, October 9, 2007
Ynys Echni, Dydd Sul 7 Hydref
Cwrddais ag Eurion, Neal, Richard U&U ac Adrian ym Mhenarth acaethom ar y dwr am 09.30, a llanw neap isel i fod am 11.30. Roedd gwynt ysgafn F2 o'r dwyrain a rhagolygon m F2-3, 4 yn achlysurol. Aethon mâs i oleudy Monkstone cyn syumd tuag Ynys Echni gyda'r llanw a chyrraedd yno ychydig cyn 11.30. Cawsom ginio ar y traeth nesaf at y lanfa ar ddwyrain yr ynys. Daeth y warden i ddweud y costiai £3.50 pe baem am grwydro ar yr ynys. Ar ôl cinio, tua 12.00 aethom gyda'r cloc o gwmpas yr ynys a chael y llanw'n barod yn llifo'n eitha cryf yn ein herbyn. Ferry glide wedyn tuag at drwyn Larnog a chyrraedd Penarth tau 14.00.
Monday, September 17, 2007
Gogledd Dyfnaint, penwythnos 15-16 Medi
Es gyda Rob G ac Emlyn i "gymanfa" môr gogledd Dyfnaint. Cyrhaeddom y gwersyll yn Mullacott Cross, y tu allan i Ilfracombe, ar nos Wener tra oedd hi'n olau o hyd, o gwmpas 20.00. Cwrddodd pawb am 9.00 y bore wedyn a rhannu'n grwpiau. Aethom i Lynmouth, yn rhan o grwp o 14 (er mai 15 adroddodd y rhai a gymrodd arnynt fod yn arweinwyr i ni i wylwyr y glannau yn Abertawe). Roedd yn fore arbennig o braf, prin awel o gwbl a'r môr fel gwydr. Cychwynnom tuag at Combe Martin tua chanol dydd. Ar ôl stopio am ginio ar draeth Ramsev (er bod yr "arweinwyr" yn mynnu ein bod yn Woody Bay) fe ymrannom yn ddau grwp o 7. Dychwelodd un grwp yn ôl tra aethom gyda'r grwp arall ymlaen i Combe Martin. Cyrhaeddom tua 16.00. Er ein bod wedi mynd yn erbyn dechrau'r llanw am o gwmpas awr, roedd y llanw'n isel iawn o hyd pan gyrhaeddom oedd yn golygu ffordd bell i gario'r cychod at y maes parcio. Ces lifft yn ôl i Lynmouth gyda John Cr., Gwyddel, ond roedd yn tynnu at ddwy awr erbyn i mi ddychwelyd a llwytho'r cychod i fynd o 'na.
Trefnodd Rob, Sea Kayaking SouthWest, y barbiciw gyda'r nos.
Roedd mymryn fwy o drefn arnom erbyn y Dydd Sul. Gwaetha'r modd roedd rhagolygon y tywydd yn anffafrïol iawn - ffors 3-7 o'r de-orllewin yn troi'n 3-4 o'r gogledd-orllewin wedyn. Er bod 11 wedi mynd gyda ni i draeth Hele, i'r dwyrain o Ilfracombe, dim ond 10 fentrodd i'r dwr. Trodd cwpl yn ôl wedi cyrraedd cei Ilfracombe. Gweithredais ychydg fel arweinydd er cymryd y lle olaf wrth i ni gychwyn i'r gorllewin am Fae Lee. Wedi cwrdd â dau badlwr lleol yn dod yn ôl o'r cyfeiriad hwnnw, penderfynom yn raddol na fydd yn mynd llawer ymhellach na dau fae arall. Stopiom am ginio ar draeth Brandy Cove ac wedyn aethom yn ôl gan "neidio'r creigiau" (rock hopping?). Cawsom un "digwyddiad" pan aeth John Cr. o'i gwch. Angorais i ei gwch tra rhoddodd un arall - Toz - ef yn ôl i'w gwch. Roeddem wedi cychwyn y daith tua 10.45, rhyw awr ar ôl penllanw, ac roedd y llanw yn ein erbyn ar y ffordd yn ôl, er nad oedd unrhyw gryfder iddo gan ein bod yn agos at y lan. Ychydig o ymarfer rolio ar y diwedd ac roeddem allan o'r dwr tua14.00.