Tuesday, April 13, 2010

Sunday, March 28, 2010

Cwrs dŵr gwyn Caerdydd, Dydd Sul 28 Mawrth


Dim ond ar y Dydd Sadwrn yr agorodd i'r cyhoedd. Es i ag Euros i gwrdd â Matt a Mark, a gweld John O' a Paul Mac yno i rafftio, a Ben Mac yno i badlo. http://cymraeg.ciww.com/

Da iawn. 5 rhediad wnes, os cyfrifais yn iawn. Alla i ddim dweud fy mod wedi torri mâs rhyw lawer, ar osgoi stoppers a pour-overs oedd fy meddwl trwy'r amser bron. Pan gyrhaeddom roedden nhw'n gollwng 10cumec ar gyfer y rhai 'elite' oedd yno'n ymarfer slalom. 8 cumec oedden nhw'n ei ollwng ar ein cyfer ni. Hen ddigon i mi!

Thursday, March 18, 2010

Ynys Bŷr, 15 Mawrth

30 km, 14.5nm, 16.6 milltir, gadael Amroth am 11, cyrraedd yn ôl am 16.00, cyfartaledd cyflymdra o gwmpas 3.2 knt (os cofiaf yn iawn). Fi a Steve A. wnaeth y daith hon. Cawsom ychydig o ddŵr garw wrth fynd o gwmpas de-orllewin yr ynys a chyn hynny fu'n galed padlo'n erbyn y llawn a'r gwynt lan y swnd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Er hynny, bues yn padlo ar 1.8knt o leiaf yn ôl y GPS. Gwelsom rhyw hanner dwsin o forloi a rhai ifanc oedd y rhan fwyaf ddywedwn i.

Wedi blino'n lân erbyn diwedd y daith: pellach na dim ydw i wedi'i wneud yn ddiweddar.

Sunday, February 28, 2010

Penwythnos Ynys Wyth 18 - 23 Chwefror


Ar ddydd Iau 18 Chwefror, gadewais y tŷ tua 14.00 gyda Andrew B, gan anelu dal fferi 16.30 o Southampton i East Cowes. Roedd hi'n bwrw eira pan adawom a phan gyrhaeddom ail bont Afon Hafren daeth y traffig i stop: damwain. Cymerodd awr a hanner i ni groesi'r bont ac felly dal fferi 18.00 wnaethom yn yn diwedd.
Ar Ddydd Gwener, cerddom uwchben y Needles ac wedyn aethom i ddwyrain yr ynys am dro bach ar y môr ger Bembridge. Aethom allan i weld Caer St Helens ac wedyn i'r de am ychydig, taith 6.25 milltir. Glanion ni yn ôl bron wrth iddi fachlud.
Dydd Sadwrn Needles: ar ddiwrnod cyntaf yr asesiad 4*, arweiniais ddau arall o Freshwater i Gaer Victoria, gan fynd heibio i'r Needles a glanio ar draeth Bae Alum i ginio.
Dydd Sul: ym mae Freshwater, asesiad ein sgiliau padlo ayb. Roedd hi'n oer iawn!!!

Saturday, February 13, 2010

Ynys Echni 23 Ionawr a rhyw fwoi ger Larnog 6 Chwefror

Cofnodion byr, rhag i mi anghofio.
1.Taith gydag Emlyn a Rob i Ynys Echni (manylion ar flog Padlwyr y Ddraig:
Dolen)
2. Ymarfer: Swanbridge mâs i ryw fwoi allan o drwyn Larnog, ac yn ôl, ac ymarfer mewn dŵr rhewllyd iawn ar y diwedd. Hanes lawn ar flog Eurion: Dolen

Sunday, January 17, 2010

Afonydd Ysgir ac Wysg, Dydd Sul 17


Es gyda Alan a Colin, yn gyntaf ar Afon Ysgir (oedd â'i mesurydd yn dangos 4.5) a chan nad oedd y daith honno'n gyffrous iawn a dim ond wedi cymryd awr, yn ail ar Afonydd Senni/Wysg o Ddefynnog i Aberbrân gymrodd awr a hanner. Fel y mae'r siart yn dangos (lefel y dŵr yn Aberhonddu) roedd Afon Wysg yn weddol uchel. Aethom i'r ochr dde ar y 3ydd rhaeadr, gan fynd ychydig i'r chwith o'r goeden sy yno ar hyn o bryd. Roedd Alan yn arwain ar y darn yno ac fe wnaeth smonach o'r diwedd a nofio. Dyna unig gyffro'r daith honno.

Buon yn ffodus gyda'r tywydd. Er ei bod yn oer a thameidiau o eira ar y mynyddoedd o hyd, heulwen gawsom y rhan fwyaf o'r dydd a chlamp o enfys ar y diwedd. Braf fod mâs eto.

Monday, January 4, 2010

Craig Tusker, Dydd Calan 2010

Ar ddydd Calan, es yng nghwmni Eurion a Chris o Fae Dunraven i graig Tusker Prin dwy awr o badlo yno ac yn ôl ond fe dreuliom rhyw hanner awr ar y graig, a rhyw awr yn chwarae yn y syrff bach bach oedd yn y bae ar y diwedd. Tywydd braf ac ychydig iawn o wynt. Un rol i ymarfer ar y diwedd!