Friday, September 2, 2005

Nôl yn syrffio, Rest Bay 28 Awst

'Sdim llawer i'w ddweud, 'mond mod i wedi penderfynu rhoi cynnig cryfach i'm hysgwydd ac wedi mynd i Borthcawl. Roedd y tywydd yn braf ond y syrff yn weddol ddidrefn ac yn fach (diolch byth). Aeth y dwr yn llawn iawn oherwydd y tywydd braf ac fe roddiais i'r gorau i'r syrffio tua un o'r gloch - hanner awr yn brin o ben llanw - ar ôl i mi bron â bwrw i mewn i dair merch a gorfod rolio (yn wael) i geisio eu hosgoi.

Wednesday, August 10, 2005

Ar y môr

Mae f'ysgwydd yn fy mhrifo ac o ganlyniad rwyf wedi cyfyngu fy ngheufadio i deithiau byr diniwed ar y môr yn ddiweddar. Ar Ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf es i Swanbridge, Syli, a phadlo ar ddwr hollol lonydd i'r don ger trwyn Larnog ac yn ôl. Mwynheuais gymaint fel fy mod wedi mynd yno eto y diwrnod wedyn ond cael y gwynt tipyn yn gryfach - Force 4 efallai. Gan fy mod ar fy mhen fy hun eto - ac yn padlo fy hen Stunt 300 yn hytrach na chwch môr pwrpasol - cyfyngais fy hun i badlo i mewn i'r gwynt at ben ynys Syli ac yn ôl, cwpl o weithiau. Digon i godi chwysigod ar fy nwylo beth bynnag.

Ar Ddydd Sadwrn 6 Awst, es ar afon Menai, o Bwll y Fanogl, i'r Felinheli. Afraid dweud - unwaith eto roedd y dwr yn hollol lonydd. Doeddwn i ddim wedi meddwl mynd mor bell ond roedd hi'n braf iawn a chan fy mod wedi anghofio mynd â diod, meddyliais y byddai'n braf mynd i'r Felinheli a nôl diod o'r dafarn. Gwae fi! Wedi cyrraedd roedd torf o'r Eisteddfod yno a'r dafarn dan ei sang. Gan na fyddwn yn boblogaidd yn gwasgu i mewn yn fy nillad gwlyb roedd yn rhaid i mi hepgor fy niod.

Ar Ddydd Llun 8 Awst, ar ôl cael ofn yn y bore yn ceisio mynd lan ochr ogleddol Tryfan, es ar fy mhen fy hun unwaith eto i Ynys Seiriol. Padlais allan i ben yr ynys, gweld tua 8 morlo, ac wedyn padlo nôl i'm dychryn fy hun yn croesi'r swnd nôl i'r tir mawr. Ychydig o wynt oedd, a'r môr yn eithaf llonydd heblaw am y llif trwy'r swnd oedd yn achosi tonnau gweddol.

Tuesday, July 19, 2005

Afon Soca, Slofenia

Wedi bod ar fy ngwyliau. Er mai cerdded yn y mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Triglaw oeddwn yn bennaf, es i rafftio un bore, ar Afon Soca o Zaga hyd at y cwrs slalom yn Trnovo. Gradd 1-3, er bod un graig fawr â seiffon.

Rwyf newydd sylweddoli i mi anghofio un daith fach ar Afon Taf y mis diwethaf.

 

Tuesday, May 3, 2005

Porthcawl eto ac Ynys Môn

Rwyf yn araf yn cofnodi pethau eto. Ar Ddydd Sul 25 Ebrill es i Borthcawl i syrffio gyda John C. a chael hwyl eto: y tonnau yn eitha bach ond o leiaf yn llunaidd.

Ar Ddydd Sadwrn 1 Mai a Dydd Sul 2 Mai bues yn symposium ceufadio y môr blynyddol ASSC, Porthdafarch ger Caergybi. Roedd ychydig dros 150 o bol yno. Ar y Dydd Sadwrn ymunais ar daith "Crash and Smash" i drwyn Rhoscolyn er mwyn dysgu sut i drwsio cwch oedd wedi ei ddifrodi. Tim a Barry oedd yr hyfforddwyr oedd yn ein harwain. Ceisiodd Barry falu ei gwch - y Romany cyntaf a adeiladwyd - ar greigiau ond yn y diwedd roedd rhaid ymosod arno gyda morthwyl i'w dyllio. Roedd rhai o'r ymgeisiau i'w atgyweirio yn weddol llwythiannus - Flash tape ddim yn ddrwg ond epoxy dwy ran oedd orau.

Ar Ddydd Sul, a'r gwynt F3-5 yn chwythu o'r de dewisais fynd ar daith o Gemlyn i Borth Llechog - pellter o 10k. Dim ond 2 awr gymrodd ac fe gymrodd y teithio yno ac yn ôl yr un mor hir. Tipyn o wastraff o amser. Phil a Harry arweiniodd. Bydd Phil, Harry a Barry yn ceisio ceufadio o gwmpas Prydain, yn dechrau heddiw neu yfory. Y cam cyntaf fydd taith 45 milltir i Ynys Manaw. Deallaf fod Nick o Surflines Llanberis yn ymuno â nhw am y cam cyntaf hwnnw.

 

Sunday, April 17, 2005

Laser Radial ar werth

Dim byd i wneud â cheufadio ond rhag ofn bod rhyw hwylwyr yn darllen hon, mae gen i dingi Laser ar werth. Gweler y ddolen isod:

http://www.boatsandoutboards.co.uk/view/F61529/

Porthcawl 17 Ebrill a Thryweryn 3 Ebrill

Rwyf wedi bod yn esgeulus o'r blog yma eto: heb gofnodi ymweld â Thryweryn ar ddechrau'r mis. Es ar fy mhen fy hun a theimlo yn ansicr ar yr afon. Pan roliais ar ôl methu'r merddwr ar ôl pont Fedw'r Gog, bu'n rhaid i mi rolio ac wrth daro fy mhen roeddwn yn ymwybodol bod yn rhaid i'r roll lwyddo gan nad oedd neb arall ar yr afon islaw i'm hachub.

Postiais eitem gwp o ddyddiau yn ôl ar safle gwe afonydd y DG yn tynnu sylw at yr adroddiad diflas canlynol am wrthwynebiad ffermwyr i agos rhan isaf Afon Tryweryn i geufadwyr:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4440000/newsid_4448300/4448359.stm

Es ar fy mhen fy hun eto i Borthcawl heddiw. Tonnau yn eitha bach ond yn siâp da pan ddeuent a mwynheais yn fawr - yn wahanol i'm gwraig a'r trydydd mab oedd yn eistedd yn y car yn y glaw erbyn y diwedd.

Sunday, March 20, 2005

Porthcawl 20 Mawrth

Sesiwn syrffio da heddiw yng nghwmni Matt. Roedd y gwynt oddi ar y lan yn tasgu'r ewyn cymaint fel prin y gallwn weld wrth ddechrau i lawr y tonnau. Doedd y dwr ddim mor oer chwaith ag oeddwn wedi ei ddisgwyl - tua 10 gradd mae'n debyg - dyna ddywedodd darlleniad buoy ger Sir Benfro.

Rwyf wedi esgeuluso cofnodi pethau yn ddiweddar. Dyma gofnod yr felly fy mod wedi bod ar y môr gyda Grant Dydd Sul diwethaf, o Syli i drwyn Larnog eto - ac fy nwylo yn rhewi ar ôl awr a hanner. Ac ar 26 Chwefror mynychais sesiwn i hyfforddwr y De-Ddwyrain yng nghanolfan Channel View a dysgu gan Sid Sinfield am y newidiadau y bwriedir eu gwneud i'r gyfundrefn cymwysterau hyfforddi.