Monday, May 1, 2006

Symposium Ceufadio y Môr, 29-30 Ebrill

Es i'r Symposium am y penwythnos a gwneud 2 daith:

Ar Ddydd Sadwrn, teithiais o Gemlyn i Borthdafarch, taith o tua 15 milltir. Gadawon Gemlyn tua chanol dydd, (o gwmpas amser penllanw Caergybi). Golygai hynny fod y llanw gyda ni. Roedd y ras wedi dechrau y tua allan i Gemlyn, ac wrth Drwyn Carmel. Chwaraeom am ryw ddeg munud ger Trwyn Carmel cyn mynd o gwmpas y trwyn i giniawa ger Ynys y Fydlyn. Treuliom ryw hanner awr yno cyn mynd yn ein blaenau i Borthdafarch. Roedd bae Caergybi yn brysur: aeth dwy fferi cyflymder uchel heibio ac un fferi arferol. Gan nad oeddun hen fenyw gennym yn gwneud yn rhy dda, bu'n rhaid i ni fynd tuag at Soldiers Point Caergybi iddi fynd i'r lan. Aethom trwy'r ras ac o gwmpas Ynys Arw ac Ynys Lawd i Borthdafarch, gan gyrraedd yno tua 16.15. Alaw ysgafn o'r gogledd oedd yr unig wynt i ni ei brofi trwy'r daith.

Dydd Sul, a phenllanw Caergybi i fod am 12.50, gadawom Borthdafarch yn fuan ar ôl 10 i geisio cyrraedd Ynysoedd y Moelrhoniaid (Y Skerries). Roedd Penrhynmawr yn rhedeg ond i arbed amser fe aethom trwyddynt i'r ochr ddwyreiniol gan eu hosgoi mwy neu lai. Trwy ras Ynys Lawd ac ymlaen ac fe gyrhaeddom (tau 12.20 os cofiaf yn iawn) gydag ychydig iawn o amser cyn i'r llanw droi. Gadawom am 14.00 a chyrraedd yn ôl eto tua 16.00. Roeddem yn grwp mawr o 25 ar y daith hon. Haws i'r fferis ein gweld efallai. Unwaith eto ychydig iawn o wynt a gawsom, or gogledd ac wedyn o'r gorllewin.

Sunday, April 16, 2006

Ynys Dewi, Dydd Sadwrn, 15 Ebrill

Taith wych o gwmpas Ynys Dewi yng nghwmni Colin a Sue E., Jeff L. a Steve W. Gadawon Draeth Mawr ryw chwarter awr ar ôl distyll. Gwahanodd y grwp ar ddamwain yn ddau bron yn syth trwy gamddealltwriaeth. Aeth Jeff a fi tuag at graig Wahan a dal y llig yn syth lawr i ben gogleddol Ynys Dewi tra aeth y lleill yn is i lawr a gweithio i lan ar hyd yr arfordir. Treuliom dros ddwy awr yn mynd i lawr yr ochr orllewinol, yn mynd i mewn i ogofeydd a thrwy gilfannau yn y creigiau. Gwelom sawl twll chwythu, ac aethom i mewn i weld yr "ystafell werdd": ogof lle mae gwawl werdd hyfryd. Roedd morloi yn gwmni i ni am yr awr olaf, yn nofio ac yn llamu o'n cwmpas. Ym mhen gwaelod yr ynys roedd y llif yn ein erbyn wrth i ni fynd trwy Dwll y Dillyn. Yn fuan wedyn, gwelom draeth yn llawn o forloi - tua 50 byddwn yn tybio - a nfion rhyw hanner dwsin atom. Cododd un ohonynt ei law a'i roi ar gefn cwch Colin, ac roedd fel petaent yn ein hela ni o'na! Roedd y Bitches newydd ddechrau llifo pan aethom drwodd, ar ôl i mi geisio, a methu, mynd ar y don rhyw ddwyawith. Byddai wedi tyfu yn eitha mawr, gan ei fod yn llanw Spring, 6.7m. Doedd dim cythrwfl yn y dwr yn rhoi arwydd o graig Horse ac fe saethom gyda'r llif (yn mynd 9.7 milltir yr awr ar un adeg yn ôl GPS). Cyrraeddom yn ôl tua 7.30, bron 4 awr ar ôl cychwyn.

Thursday, April 13, 2006

Dydd Iau, 13 Ebrill.

Nos Fercher clywais eitem ar y newyddion bod merch wedi ei chludo i'r ysbyty ar ôl damwain ar Afon Gwy ger y Clas-ar-wy. Postais neges ar fforwm http://www.ukriversguidebook.co.uk/forum/viewtopic.php?t=13776. Y bore yma, dyma fi'n cael galwadau ffôn gan ITV a'r BBC yn gofyn i mi wneud cyfweliad amdani, gan fod y ferch 9 oed wedi marw. Gwnes gyfweliad â'r BBC a ddangoswyd ar newyddion S4C. Wyddwn i ddim o fanylion y ddamwain wrth gwrs. Fy namcaniaeth bersonol yw bod canw y teulu o 3 wedi troi drosodd, bod y 3 wedi eu gwahanu yn y dwr a bod y ferch wedi ei hysgubo i ynys neu frwyn a'i bod wedi ei dal yno am dipyn ac erbyn i'w thad/achubwyr ei chyrraedd ei bod wedi oerio.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4900000/newsid_4906900/4906934.stm

Bae Caerdydd, Dydd Sul 9 Ebrill

Diwrnod ar y Bae yng Nghaerdydd, mewn sesiwn ar sut i hyfforddi ceufadio môr. Cawsom bob math o dywydd, gan gynnwys heulwen a chesair. Daeth y cesair yn y prynhawn pan oeddem yng nghanol y Bae. Amser cinio fe lanion ni a mynd am baned yn Coffee Heaven neu rywle felly. Tynnon ni lygaid pawb gan ein bod yn eistedd wrth y byrddau y tu allan yn ein dillad ceufadio. Ar y diwedd, rolias i ddwywaith er mwyn ymarfer. Dylwn i fod wedi gwybod yn well. Mae ansawdd dwr y Bae yn warthus. Dydd Mawrth es i'n sâl gyda phoenau yn y bol barodd am dridiau. Boed yn rhybudd i chi i gyd.

Monday, March 27, 2006

Afon Ysgir, Dydd Sul 26 Mawrth

Unwaith o'r blaen, os cofiaf yn iawn, oeddwn i wedi padlo ar yr afon hon. Cofiwn ei bod yn braf ond roedd gen i bryder hefyd am wifrau ar draws yr afon. Doeddwn i ddim yn cofio yn iawn a oeddwn wedi cael profiad o hwnna ar yr afon yma ond roedd cof pendant ohonynt ar Afon Honddu (gwasgu danodd) ac Afon Tarell (taro i mewn a rolio danodd). Fel y digwyddodd roedd yr afon yn glir ohonynt ac fe ges i, Rob G., Phil D. a Tim daith braf di-ddigwyddiad. Roedd lefel y dwr yn gymhedrol (ychydig dros 4 ar y mesurydd wrth y gored ar y diwedd): dim crafu heblaw ar ail gam y rhaeadr mwyaf. 

Monday, March 20, 2006

Canwio Ynys Môn

Es ar benwythnos "Advanced Sea Kayaking" (i fod) gyda chwmni Nigel Dennis (http://www.seakayakinguk.com/) ar 11-12 Mawrth. Roedd tri arall ar y cwrs: Neil, o Israel, Ole, o Greenland, ac Olaf, o Lundain. Fe'n harweinwyd gan Pete, gan fod Nigel yn dal i ddioddef yn sgil y ffliw.

Er bod y rhagolygon am wynt 5-7, yn codi am 8, roedd hi'n fore braf yng Nghaergybi ar y bore cyntaf. Cychwynom o Gaergybi gyda bron dim gwynt o gwbl. Yn fuan ar ôl gadael y porthladd roedd yn rhaid inni dynnu i mewn i draeth Soldiers Point i Pete gael drwsio ei gwch oedd yn gollwng. Llwyddais golli blaen fy mibell ddwr Platybus wrth lanio (yr ail dro i mi ei golli tra'n ceufadio ar arfordir Môn). Roedd y llanw ar drai a ras felly wrth nesáu at Ynys Arw. Chwaraeon ni yno am ychydig - a môrlo yn ein gwylio - cyn mynd ymlaen i stopio yn Ogof y Senedd-dy am ginio. Rhagor o fôrloi. Roedd y llanw wedi troi erbyn inni gyrraedd Penrhyn Mawr ac felly cawsom chwarae ar y ras yna am ychydig hefyd. Gorffenom gydag ychydig o ymarfer rolio ym Mhorth Dafarch.

Y diwrnod wedyn,roedd y tywydd wedi newid, ac yn dipyn mwy o sialens. Aethom i arfodri y gogledd gan fod y gwynt yn chwythu'n eitha cryf (4) o'r de. O Borth Eilian fe aethom allan tipyn i ddal y llif i'r gorllewin. Roedd ymchwydd gweddol yn rhoi cyfle inni syrffio. Roedd padlo i mewn i Borth Wen yn waith caled, i mewn i wynt 4-5, 6 ar adegau. Stopion ni yno am ginio ac wedyn cychwyn yn ôl. Roedd croesi Prth Llechog bron yn ormod i mi, a'r gwynt yn gryf o'r lan ar fy ochr bron yn fy chwythu drosodd ychydig o weithiau. Ar ôl ychydig, anelom i mewn at y lan ac wedyn cadw i mewn yn agos i weithio ein ffordd yr holl ffordd yn ôl. Roedd fy nghoesau yn boenus iawn erbyn y diwedd. Gobeithiaf y bydd modd i mi gael safle eistedd mwy cyfforddus y tro nesaf, ar ôl newid fy nghwch tipyn. 

Saturday, February 18, 2006

Afon Taf, Dydd Sadwrn 18 Chwefror

Aeth 5 ohonom, fi, Matt, Phil D., Paul Mc, Dave C, ar yr afon o Fynwent y Crynwyr i Drefforest. Hwn oedd y tro cyntaf i bawb ond Matt a fi wneud yn darn yma. Llwyddodd Phil wneud ei rol cyntaf mewn dwr gwyn, a dyna uchafnwynt y daith mae'n debyg. Lefel y dwr: 5 (isel) ar y mesurydd uwchben cored Abercynon.