Saturday, September 18, 2010

Kimmeridge Dydd Sadwrn 18 Medi 2010

Es i â Rob, gan adael Caerdydd tua 8 a llwyddo bod ar y dŵr ychydig cyn 12. Roedd yn ddiwrnod braf trwy'r dydd ond yn arbennig tan tua 13.30 pan gyrhaeddom fae Lulworth. Tan i ni gyrraedd Mupe Rocks roedd y môr bron â bod yn hollol lyfn ond ar ôl y creigiau trodd i fod ychydig yn fwy garw ac fe gododd y gwynt i fod yn F3 weithiau i'n hwynenebau. Glaniom am ginio ger y caffi ym mae Lulworth. Roedd rhyw 15 ceufad ar y traeth pellaf gyferbyn a daeth rhyw 15 arall i'r traeth lle roeddem ni. Aethom ymlaen wedyn at Durdle Door, bŵa anferth mewn craig oedd yn ymestyn i'r môr. Roedd sawl bŵa bach wedi bod cyn hwnnw hefyd. Ymlaen â ni at fan bellaf ein taith, sef "Bat's Hole", twll drwy benrhyn bach, ac aethom trwyddo un ffordd, troi rownd a dod nôl. Roedd y gwynt ar ein cefnau nawr, a'r llawn gyda ni. Stopion ar draeth arall ym mae Lulworth ar y ffordd yn ôl a chyrraedd Kemmeridge tua 18.00. Taith o 14nm, 28k.

Sunday, September 12, 2010

Y Mwmbwls, Dydd Sul 12 Medi 2010

Ar fy mhen fy hun eto. Yr un daith â'r tro diwethaf i mi fynd ond y tro hwn o bobtu i'r distyll: gadael rhyw awr cyn y distyll. Sylwais ar yr overfall mawr ymhellach allan o'r Mwmbwls ac roedd hi'n gweithio ar y ffordd allan ac ar y ffordd yn ôl pan oedd y llanw wedi troi. F3 i'm wybeb ar y ffordd allan a'r tywydd yn gymysgedd o heulwen a chymylau.

Thursday, September 2, 2010

Weston Super Mare, Dydd Iau 2 Medi 2010


Taith wych arall. Cychwynnodd Steve A. a fi o Swanbridge am 08.30. Roedd gwynt F3 o'r dwyrain a'r llanw yn neap. Am 12.37 byddai'n benllanw yn Weston. Cyrhaeddom Ynys Echni a glanio yno i ymestyn ein coesau ar ôl 45 munud. Galwais Wylwyr y Glannau wrth i ni ymadael â'r ynys i ofyn oedd llongau ar eu ffordd i lawr y sianel. Yn ffodus, doedd dim. Croesom i Weston (ar gwrs SSE) yn gyflymach na'r disgwyl a chyrraedd tua 11.00. Roedd modd i ni lanio ger y Cove Cafe yn ffodus - roeddwn i wedi ofni y byddai llaid yn ein rhwystro tan 11.37. 10.24 milltir oedd hyd y daith. Brechdan, cappucino ac hufen iâ yn yr heulwen braf. Cychwyn o'na adeg penllanw a phadlo'n ôl yn syth (mymryn WNW), heb fynd ar gyfyl Ynys Echni. 9.55 milltir yn ôl. 4 awr 25 munud gymerodd y daith yno ac yn ôl. Cyrraeddom yn ôl tua 15.00. 17.23 milltir morol i gyd. Gwych, gwych, gwych,....

Cwmtydu, Dydd Llun 30 Awst


Cwrddais â Colin a Sue yng Nghwmtydu a gadawom tua 11.00 rhyw 1 awr 20 munud cyn i'r llanw droi tua'r de) i gyfeiriad Cei Newydd. Gwelsom ddolffin fan honno, ar ôl cael cappucino yn y caffi a'n brechdanau ar y traeth! Aethom i'r de wedyn a thynnu i mewn i draeth Lochtyn. Gwelom ddolffin eto ger Ynys Lochtyn ac wedyn aethom i lawr i Langrannog. Roedd cryn syrff yno, a llawer o bobl ar y traeth. Yn hytrach na mentro trwy'r syrff troisom yn ôl i Gwm Tydu. 13.9 milltir y môr i gyd.

Roedd y tywydd yn braf a'r gwynt yn ysgafn (F2 yn bennaf o'r gogledd) ar ôl gwyntoedd cryfion y diwrnod cynt (pan gollwyd ceufadiwr yn angheuol ger Rhosneigr: http://www.mcga.gov.uk/c4mca/mcga07-home/newsandpublications/press-releases.htm?id=D95E59EE526DA810&m=8&y=2010).

Sunday, August 29, 2010

Ynys Echni, 27-28 Awst 2010


O'r diwedd, llwyddais wersylla ar Ynys Echni. Gadewais Swanbridge gyda'r hwyr a chyrraedd yr ynys tua 19.45, hanner awr cyn iddi dywyllu. Codais fy mhabell a chael bwyd cyn iddi dywyllu. Roedd y lleuad bron yn llawn (a'r llanw wedi bod yn uchel felly - 11.3m os cofiaf yn iawn) ac yn noson braf. Wedi iddi dywyllu roedd yr olygfa'n braf o hyd: goleuadau trefi glan y môr de Cymru a Gwlad yr Haf yn rhyfeddod. Rhedai'r cwningod o gwmpas ac roedd y lle'n swynol. Cysgais yn dda, er bod y gwynt yn chwipio'r babell a'r gwylanod ac adar eraill yn cadw rhyw sŵn drwy'r nos. Cysgais yn hwyr gan ddihuno ychydig cyn naw, a dyna olygfa eto. Roedd y môr o'm blaen, yn frown wrth gwrs, fel arfer, ond yr haul yn tywynnu a llawer o gychod hwylio allan yn barod.

Roeddwn am fynd adre ar ôl penllanw 11.00 ac felly doedd dim llawer o amser gen i mewn gwirionedd. Paciais rai o'm pethau â mynd â nhw i lawr at y cei lle des ar draws dafad (wyneb broch) yn gorwedd ac yn anadlu'n drwm. Ni symudodd wrth i fynd heibio iddi. Rhyfedd iawn. Dywedais yr hanes wrth Ross, yr is-warden, pan es yn ôl at fy mhabell a'i thynnu i lawr a gorffen pacio. Es am dro o gwmpas yr ynys wedyn, a chael sgwrs ag un o arweinwyr Woodcraft oedd yno'n hyfforddi grŵp o ryw ddeg crwt ar sgiliau goroesi. Roedden nhw wedi bod yn gwersylla mewn tîpî. Ar fy ffordd nôl at y babell des ar draws un o wirfoddolwyr yr ynys oedd yn chwilo am weddill y praidd wyneb broch. Dywedodd fod y ddafad oedd i lawr wrth y cei wedi trigo. Cerddais gyda'r dyn am ychydig nes dod o hud i'r praidd a gweld bod Ross wedi sylwi bod dafad arall wedi gwahanu oddi wrth y lleill ac yn edrych yn giami.

Gadawais yr ynys yn eithaf hwyr, tua 12, ac fel y rhagwelwyd gan y rhagolygon roedd y gwynt yn codi. Roedd yn F4 am y rhan fwyaf o'r daith ac hwnnw'n gweund y daith yn dipyn mwy o sialens nag a gefais ar fy nheithiau diweddar yno. Cymerodd y daith awr.

Profiad arbennig. Rwyf am fynd eto!

Y Mwmbwls, Dydd Sul 22 Awst

Taith arall i'r Mwmbwls. Mwy neu lai'r un cynllun â'r un blaenorol, heblaw fy mod ar fyn mhen fy hun y tro hwn. Es i'n bellach - at Trwyn Pwlldu, lle ces fy mrechdan. Ymarfer rolio eto wrth gyrraedd yn ôl. "Re-entry and roll" wedi gweithio, jyst, y tro hwn. A hufen iâ blas mafon i orffen.

Saturday, August 21, 2010

Afon Menai, Dydd Mawrth 17 Awst 2010

Cychwynnais o Bwll Fanogl (i'r gorllewin o golofn Nelson "England expects...") a mynd yn syth am Bont Menai. Roedd y llanw newydd droi a doedd gen i ddim llawer o amser i fynd yno a medru cyrraedd yn ôl. Roedd dau grŵp o ganŵyr dan hyfforddiant allan, yn disgwyl i'r llif gynyddu iddynt fedru ymarfer torri i mewn a sylwais ar dri cheufadiwr arall ar y lan ychydig cyn Pont Britannia hefyd yn cymryd hoe. Es i lawr i'r Felinheli wedyn a phrynu brechdan caws drud iawn yn y dafarn a'i bwyta wrth fwrdd y tu allan. Doedd y tywydd ddim hanner cytsal â'r diwrnod cynt. Ar yr afon doedd bron dim gwynt (F3-4 o'r gogledd orllewin oedd hi i fod) ond doedd fawr o heulwen chwaith, er ei bod yn sych. Fe welais wn i ddim faint o grëyrod ar lan Ynys Môn. Ymarfer rolio ar y diwedd yn iawn, ond yr ymarfer allan o'r cwch a rolio i fyny wedyn yn fethiant. Doedd dim digon o bŵer ar ôl yn y GPS i'w ddefnyddio ond, o edrych ar y map, rwy'n amcangyfrif mai rhyw 7 milltir o daith i gyd oedd hon.