Sunday, January 23, 2005

Afon Afan, Sul 23 Ionawr

Y tro cyntaf i mi fynd ar yr afon hon, yn anffodus dewison ni yn annoeth: doedd dim digon o ddwr yn yr afon a dweud y gwir a bu llawr o grafu ar y cychod i'w cael nhw i lawr. Er hynny, roedd hi'n ddiwrnod braf - yr haul yn tywynnu yn ein llygaid llawer o'r amser a haenen o eira i'w gweld ar lethrau y bryniau o'n cwmpas yn y dyffryn hardd. Mewn dau le roedd pibellau yn croesi'r afon a bu'n rhaid cario'r cychod heibio. Wrth roi i mewn wedyn mewn pwll o dan yr ail bibell, gwelson eog!

Sunday, January 16, 2005

Afon Rhondda Fawr, Dydd Sul 16

Doeddwn ni ddim wedi bod ar yr afon hon ers 2 flynedd o leiaf. Pryd hynny, bues yn ddifrifol o sâl. Rhoes y bai ar ansawdd dwr yr afon a thyngais lw i mi fy hun na fyddwn ym mynd arni byth eto. Ond awgrymodd John C. y byddai'n braf ei gwneud eto, ac mae'r cof wedi pylu, felly dyma fi'n mynd gyda John, Matt a Rob. Hwn oedd y tro cyntaf i Rob a Matt fynd arni. Roedd lefel y dwr yn isel ond doedd hynna'n ddim rhwystr i mi rolio ar ôl dod drwy'r bond ar ddechrau y darn gradd 3/4! Heblaw am hynny, dim problem. Rhaid aros am ychydig o ddyddiau cyn gweld a fydd y dwr yn fy nghael yn y pendraw.

Sunday, January 9, 2005

Afon Tawe, 9 Ion. 2005

Cychwynnais yng nghwmni John C., Alan a Haydn am Afon Nedd Fechan ond pan gyrhaeddon ni dyfarnodd Alan fod lefel y dwr yn rhy isel. Gan fy mod wedi rhagweld y posiblrwydd, ac wedi ymchwilio i sefyllfa mynediad Afon Tawe aethom yno yn lle.

Wrth stopio yn Abercrâf, death menyw o dy cyfagos gan weiddi nad oeddem yn cael canwio ar yr afon. Roedd yn bleser pur dangos copi o'r cyntundeb mynediad a gytunwyd rhwng Cymdeithas Ganwio Cymru â'r gymdeithas bysgota leol. "oh, mae'n rhaid bod pethau wedi newid felly" dywedodd yn siomedig. Byddai'n well i'r pysgotwyr fod yn poeni am ansawdd y dwr: roedd e'n drewi mewn sawl man, a'r diesel ynddo yn amlwg mewn mannau. Doedd dim hanner cymaint o fywyd gwyllt i'w weld ag sy'n arferol ar Afon Taf. DIm un creyr na glas y dorlan.

Beth bynnag, er nad oedd llawer o ddwr yn Afon Tawe chwaith, teithion ni i lawr o Abercrâf i Ystalyfera. Llawer o goredi, a cheunant braf bron ar y dechrau.

Afon Wysg, Tal-y-bont - Llangynidr, Dydd Mercher 29 Rhagfyr

Aeth saith ohonom - fi, Rob, Grant, Andy R., Matt, John N. a John M. ar y daith hon. Dim ond ail daith John M. ar afon oedd hon. Rhoddodd achos i mi ymarfer techneg achub ymestyn pan aeth yn sownd o dan wreiddiau oedd dros y lan ar dro. Defnyddiol iawn. Roedd lefel y dwr ychydig yn uwch na'r tro diwetha i mi fynd - a'r tonnau ddim cystal o'r herwydd.

Sunday, December 19, 2004

Rest Bay, Portcawl, Dydd Sul 19 Rhagfyr

Er i mi ffonio llwyth o bobl, methais â dod o hyd i neb i fynd am daith ar Afon Tarell, fel y dymunwn. Felly, ar ôl syllu ar luniau web cam o Borthcawl trwy'r bore, es i Rest Bay ar fy mhen fy hun. Roedd y llanw ar ei uchaf am 12.10 ond camais i'r dwr 2 awr wedyn, ac aros arno am awr. Er bod degau o syrffwyr, fi oedd yr unig ceufadiwr. Roedd yr amgylchiadau yn arbennig o dda: gwynt o'r lan yn codi y tonnau yn uchel ond y rheiny'n llunaidd reolaidd. Roedd yn rhaid i mi rolio unwaith ac am y tro cyntaf pan oedd rhaid defnyddiais i rôl sgriw o'r cefn. Yn ôl y bwoi agosaf oddi ar Sir Benfro, tua 11 gradd oedd tymheredd y dwr a doedd hi ddim yn teimlo'n oer iawn chwaith.

Sunday, December 12, 2004

2 daith: Afon Gwy 28 Tach. a'r môr 11 Rhagfyr

Bythefnos yn ôl, bues ar Afon Gwy, islaw Llangurig a gorffen yn Rhaeadr Gwy, pan oedd lefel y dwr yn isel iawn, affitio trwy ddwr gwyn y "Blwch Llythyron" oedd y brif broblem. John C., Rob a Tim oedd gyda fi pryd hynny. Ddoe, am y tro cyntaf am flynyddoedd, es ar y môr. Gan bod pwysedd uchel ers dros wythnos roedd y dwr yn hollol lonydd ac roedd fel mynd am dro yn y parc. Cwrddais â Rob G. a John N. yn Cosmeston a gyrru ymlaen i Syli. Padlon wedyn i'r dwyrain i Drwyn Larnog ac yn ôl i ochr orllewinol Ynys Syli. Dechreuon ni ryw 2 awr cyn llawn isel - tua deg - a chan hynny doedd y trai ddim yn gryf iawn wrth Drwyn Larnog er bod llif pendant o hyd. Cyrhaeddon yn ôl wrth yr ynys cyn i'r llanw droi o hyd am ganol dydd. Newid braf ac yn codi'r hen ysfa ynof i badlo draw i Ynys Echni ryw ddydd.

Sunday, November 21, 2004

Afon Grwyne Fawr, Tach. 21.

Ar ôl diflastod peidio padlo y penwythnos cynt, roedd hi'n braf mynd ar afon newydd i mi. Dim ond un arall oedd gyda fi, sef John C., fy nghydymaith ffyddlon. Parcion ni wrth neuadd pentref Glangrwyne cyn cychwyn am Bont Cym Fach. Oedion ni wrth gored (erchyll o berygl mewn dwr mawr) Llandenny (beth yw'r sillafiad cywir yn Gymraeg tybed?). Roedd y mesur lefel dwr yno yn dangos 3, sy, meddai'r arweinlyfr awdurdod, braidd yn isel. Oedd, mi roedd tipyn o grafu ar y ffordd i lawr ond cawsom fwynhad mawr. Digon i'n diddori. Byddai modfedd neu ddwy yn rhagor o ddwr yn hwyluso pethau (ac yn osgoi taro'r gwaelod ar ffordd i lawr un rhaeadr - Penydaren os cofiaf yn iawn) ond roedd yn braf iawn fel yr oedd. Gobeithio y daw cyfle arall yn mynd eto cyn bo hir. O, a chan bod traddodiad yn codi yn y cofnodion hyn fy mod yn cofnodi manylion cael peint - roedd tafarn ("Blue Bell") yn gyfleus iawn yng Nglangrwyne. Taith rhyw ddwy awr oedd hi  - o 11 tan 1 - felly roeddem yn y dafarn erbyn 2!