Sunday, April 12, 2009
Dydd Sul, 5 Ebrill
Taith fach ar fy mhen fy hun rhyw awr a thri chwarter o hyd o Borth Einon, Penrhyn Gŵyr, tra aeth Janette am dro bach ar hyd pen y clogwyni i'r gorllewin. Gan ddilyn awgrym y llyfr "Welsh Sea Kayaking" cadwais yn bell i'r dwyrain o drwyn Porth Einon ac es mâs i'r buoy - ? East Hedwick. Roedd tipyn o ymchwydd yn y môr ac ar ôl arfer ceufadio mewn cwmni roeddwn yn ôl yn teimlo'n gymharol nerfus ar fy mhen fy hun ar y môr mawr.
Saturday, March 28, 2009
Ynysoedd y Sili
Es gyda Andrew B, Nick M, ac Owen S. i ynysoedd y Sili am wythnos. Hedfan yno ar 20 Mawrth ar hofrennydd o Penzance, wedi gweld St Michael's Mount.
Sadwrn 21 Mawrth: o Borth Thomas ar St Mary's, lle cawsom y cychod gan Murray, i Samson, lle glanion ar y traeth.
Ymlaen wedyn tuag at Castle Bryher, draw tuag at Maiden Bower ac wedyn i'r gogledd at Scilly
Rock. Cawsom ychydig o ddwr garw wedi ei achosi gan ras y llanw wrth fynd gyda'r cloc o gwmpas Scilly Rock. Aethom i lanio ar draeth euraid arall ar ochr orllewinol Bryher i gael cinio - ac i mi wisgo cag. Mewn fest oeddwn wedi bod tan hynny a gweld dwr Scilly Rock braidd yn gyffrous am hynny. Lan i rowndio Shipman Head wedyn, a dwr ychydig yn arw eto. Padlon yr holl ffordd drwy hollt ar yr ochr ddwyreiniol, ac yn ôl trwyddo cyn mynd ymlaen i ymweld a Chastell Cromwell ar Tresco. Ymlaen wedyn a glanio yn New Grimsby am hufen iâ, cyn troi yn ôl i St Mary's.
Dydd Sul: gan ein bod wedi sylwi yn New Grimsby y diwrnod cynt fod y tywydd i fod i waethygu llawer erbyn diwedd yr wythnos, penderfynom adael i wersylla am noson ar St Agnes. Glaniom ger y tafarn - er i ni ddeall na fyddai ar agor i ni ymhellach ymlaen (gan ei fod yn llawn ar Ddydd Sul y Mamau). Prynon wyau a chwrw ac wedyn mynd ymlaen i wersyll Troy Town. Gadael ein pethau heb godi pebyll i geisio mynd ymlaen. Yn erbyn gwynt F4 i ogledd Annet a chael dwr garw ger yr Haycocks ac ar y dechrau i lawr gorllewin Annet. Erbyn hyn, doedd yr awyr ddim
mor glir a phenderfynom na fyddai'n ddoeth cario ymlaen i geisio mynd i greigiau'r gorllewin. Cario ymlaen i dde Annet felly a chwrdd ag ychydig o forloi. Rhoddais syndod i ddau oedd ddim wedi sylwi arnaf ac a oedd yn torheulo yn y môr. Croeso yn ôl i St Agnes ond mynd i lawr at y traeth mwyaf deuheol.
Gorffwys yno cyn padlo i lan at y gwersyll i godi pebyll.
Dydd Llun: cychwyn gan fwriadu mynd o gwmpas St Mary's. Aethom i'r de yn gyntaf, gwrth glocwedd o gwmpas St Agnes. Roedd Nick ac Owen wedi blino erbyn hyn felly pan gyrraeddom Ynys Gugh aethon nhw y tu mewn i gario dros y bar. Parhaodd Andy a fi ar ein taith o gwmpas Gugh a chwrdd a nhw o flaen y llithrfa at
y
dafarn. Croesi'r swnd yn ol at St Mary's (tipyn o ymchwydd) a glanio i gael pastai ym Mhorth Cressa. Ymlaen ar hyd ochr ddwyreiniol wedyn. Piciais i i mewn i Borth Helyg am ollygndod,ac wedyn stopion ni i gyd ger Ynys Tolls. Roedd y gwynt wedi cryfhau a chawsom frwydr i gyrraedd Innisidgen, yn erbyn gwynt o gwmpas F6. Penderfynu wedi cyrraedd yno na fyddem yn gallu cario ymlaen. Yn ôl â ni felly, i draeth yr hen Dref, ddim yn bell o dy Mam Andy lle roeddem yn aros.
Dydd Mawrth: rhagolygon am F5-7, weithiau 8. Penderfynon Nick ac Owen y bydden nhw'n cael diwrnod i ffwrdd ac aethon nhw am daith cwch i St Martin's. Padlodd Andy a fi ein cychod ni i'r gorllewin, o gwmpas Garrison Hill i Borth Thomas. Cerdded yn ôl i Draeth yr Hen Dref wedyn i gael y ddau gwch arall: eu padlo at Borth Cressa a'u cario trwy'r dre at yr harbwr. Er gwaetha y rhagolygon roedd y tywydd yn braf o hyd. Penderfynon y dylem badlo'n fwy felly a chroesom draw i ddwyrain Tresco cyn gwyro i'r dwyrain a glanio ar St Martin's ger Lower Town, gyferbyn â Tean. Croesom i Tean wedyn a glanio yno i weld yr adfeilion (tyddynod) cyn croesi wedyn i Saint Helen's a gweld adfeilion y mynachdy yno. Padlo yn ôl i Borth Thomas ar St Mary's wedyn a chael ein gweld gan Nick ac Owen oedd ar eu cwch adre.
Dydd Mercher: rhagolygon am F5-7, weithiau 8 eto (roedd ymddiheuriad, bron, wedi bod ar y VHF y noson gynt am gael y rhagolygon mor anghywir). Y tro yma, roedd hi'n wyntog ger Traeth yr Hen Dre yn y bore, felly aeth Nick i wneud diwrnod o waith ar ei liniadur ac aeth Andy, Owen a fi am daith cwch i Tresco. Gwelsom yr ardd enwog, wedyn gadewais y ddau arall i gerdded gwrth glocwedd o gwmpas yr ynys, i New Grimsby eto lle roedd y cwch i'n codi (er i ni gael ein gollwng ger Crow Point). Ymwelais â Chastell Charles y tro hwnnw.
Dydd Iau: yr un rhagolygon eto,ac yn nes ati, felly dim padlo eto. Cerddais yr holl ffordd o gwmpas St Mary's, yng nghwmni y 3 arall at lle tebyg i Din Lligwy, wedyn gyda Andy a Nick hyd at draeth yr Hen Dre lle arhosodd Nick, wedyn gyda Andy at y dre, ac ar fy mhen fy hun wedyn.
Dydd Gwener: adre - yn ol tua 15.00.
Friday, March 6, 2009
21 Chwefror a'r 1af o Fawrth
Dwy daith ar y mor. Ar 21 Chwefror es gyda Rob ac Emlyn. Cychwynnon o Aberogwr tua dwy awr ar ol y distyll. Aethom i gyfeiriad Porthcawl gan gyrraedd y trwyn cyntaf ger Notais ac wedyn dychwelyd gan fynd ychydig heibio i Aberogwr, cyn troi trwy'r syrff i lanio ar lan orllewinol afon Ogwr. Nofiodd Rob ac Emlyn. Collodd Rob ei badl ond achubais y padl o'r dwr ychydig wedyn. Taith braf ond yn dipyn o her newydd i'r ddau arall, gan fod syrff cymhedrol a gwynt yn codi at F4.
Dydd Gwyl Ddewi es gyda'r yr ddau, a Mei, i gwrdd ag Andy, Nick ac Owen, sef y tri y byddaf yn mynd gyda nhw i Ynysoedd y Sili cyn bo hir. Cychwyn o dafarn y Captain's Wife, o gwmpas ynys Sili a lan at drwyn Larnog ac yn ôl. Cychwynnon tua dwy awr ar ol penllanw ac roedd y stopper/ton ger trwyn Larnog yn rhedeg yn dda. Nofiodd Rob eto!
Thursday, February 19, 2009
Teithiau hyd yma yn 2009
Dydd Calan, yng nghwmi Eurion a Richard Mordey, mewn tywydd oer iawn, taith gylchol o Southerndown, mâs i Graig Tusker, ac yn ôl. Dim ond rhyw 2 awr o daith ond yn fwy o waith na'r disgwyl, gyda'r gwynt yn rhyw F5 yn ein herbyn o Graig Tusker roedd yn rhaid i ni weithio'n galed i gyrraedd y lan ger Aber Ogwr. Dychwelon i dy Eurion wedyn am baned ac i ddadmer.
Taith gyda Colin a Sue E, Mark, Del, John C ac Euros ar Afon Tywi, y rhan gradd 2-3 i lawr at Ddolauhirion. Nofiodd John a Mark!
Taith ar Afon Ogwr, o Felin Ifan Ddu i Sarn (wedi ei chofnodi ar flog Padlwyr y Ddraig http://www.dragon-paddlers.blogspot.com/)
Rhyw 4 taith syrffio i Rest Bay, Porthcawl, gan gynnwys un penwythnos pan es gydag Euros ar y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul.
Dydd Llun 16 Chwefror, taith ar fy mhen fy hun o Rosneigr heibio i Borth Cwyfan i'r penrhyn cyn Aberffraw, ac yn ôl i Rosneigr, rhyw 2 awr a hanner o daith. Ac eithrio tipyn o ymchwydd ger Meini'r Meibion (overfall bach?) roedd y môr yn eitha llonydd, gwynt F2-3 o'r gorllewin.
Tuesday, December 9, 2008
Teithiau môr
Mae gen i ormod o deithiau heb eu cofnodi - gan gynnwys:




- taith wyllt i Ynys Echni (7 Hydref 2007! medd blog Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/2007/10/monkstone-rock-flatholm.html)
- o gwmpas Skomer a Skokholm rywbryd ym mis Gorffennaf;
- i Ynys Echni ac Ynys Rhonech (ar 8 Mehefin yn ol Eurion ar ei flog). Dyma damaid o fideo dynnodd e ar y ffordd nôl, rhwng y ddwy ynys, a'r gwynt yn cyrraedd F5 ar adegau:);
- teithiau yn yr Alban ddiwedd mis Awst (Eskdale, Port Appin, Arisaig), ar draws Môr Hafren o Sin Dunwyd i Porlock Weir ym mis Medi ;
- penwythnos yng nghwmi Emlyn ym mis Medi pan wnaethom ddwy daith, y diwrnod cyntaf o Gei Newydd i Aberporth ac wedyn ar y Dydd Sul o Aberporth i Aberteifi;
- wythnos ym Mhlas Menai yn hyfforddi am 4* tua 20 Hydref;
- ac nawr hon, taith arweiniais yng nghwmni Rob (yn ei bryniant diweddar o Blas y Brenin - Capella 160 plastig glas) ac Emlyn o'r Barri (Bae Jackson) i Drwyn Larnog ac yn ôl. Gadawom tua 12.20, dim ond tua 40 munud cyn penllanw ond yn fuan sylweddolom fod y llanw wedi troi'n herbyn yn barod. Roedd y tywydd yn berffaith nes i ni gyrraedd Trwyn Larnog lle, ar ôl ryw hanner awr, daeth niwl ac rodd hwnna gyda ni, yn cuddio Ynys Sili o'r golwg hyd yn oed nes i ni ddod yn agos at yr ynys. Cliriodd wedyn ac roedd yn braf eto erbyn i ni gyrraedd Bae Jackson eto.
O GPS Emlyn:
Hyd y trip- union 10 milltir Cyflwymdra (cyfartaledd) 2.6m/a Cyflymdra uchaf - 6.9 m/a Amser yn padlo- 3.02.37.
Labels:
ceufadio,
Echni,
Môr Hafren,
Rhonech,
Sir Aberteifi,
yr Alban
Tuesday, November 18, 2008
Dydd Sul 16 Medi
Yn hytrach na gadael mwy byth o amser i fynd heibio, rywf am gofnodi'r daith ddiweddaraf oll i mi ei gwneud, yng nghwmni y ddau fab hynaf a John C., yn dechrau ar Afon Senni yn Nefynnog i berbran ar Afon Wysg. Dysgais y diwrnod wedyn bod bachgen ysgol o Reading wedi boddi ar Afon Wysg, ger Aberhonni, y diwrnod cynt. A heddiw daeth y BBC ataf i wneud cyfweliad ar gyfer newyddion S4C yn holi fy marn am geufadio ar argae Llyn Brianne, stori a feddiannodd y cyfryngau heddiw am ryw reswm,
Thursday, July 17, 2008
Symposium Môr Môn, 3-5 Mai
Anghofiais gofnodi hwn. Arhosais gyda'r teulu ym Môn ond cwrddais ag Eurion a Jim ym Mhorthdafarch bob dydd. Ar y Dydd Sadwrn, wedi f'ysbrydoli gan eu brwdfrydedd hwy am weithdai'r symposium, ymunais â sesiwn "Incident Management" o dan arweiniad Jeff Allen. Roedd hyn yn cynnwys cwympo i'r dwr mewn gyli er mwyn cael fy nhynnu allan gyda toggle tow, ac ymafer hunan-achub, h.y. mynd mewn i'r ceufad yn y dwr a rolio i fyny (ac wedyn apdlo o gwmpas gyda'r cwch yn llawn dwr). Hwyl fawr. Y ddau ddiwrnod nesaf es gyda'r ddau arall, y ddau dro o SoldiersPoint, Caergybi i Borthdafarch gan chwarae yn nwr gwyllt Ynys Arw. Mae digrifiad llawn ym mlog Eurion:http://beyond-the-break.blogspot.com/2008/05/breaking-in-breaking-out-what.html
Tags: Môn; ceufadio;canwio
Tags: Môn; ceufadio;canwio
Subscribe to:
Posts (Atom)