Sunday, November 21, 2004
Afon Grwyne Fawr, Tach. 21.
Afonydd Senni ac Wysg, 7 Tach.
Es gyda John C., Tim, ac am y tro cyntaf Clare. Ymunon ni â rhai o hen ddwylo Clwb Canwi Caerdydd (a chychwyn cyn taith gweddill Clwb Caerdydd). Lansion ar Afon Senni. Roedd lefel y dwr yn eitha isel. Dim oed dau ddigwyddiad gwerth eu cofio oedd.
Y cyntaf oedd Tim yn dringo allan o'i gwch ar ymyl y rhaeadr cyntaf gan ei fod wedi mynd yn rhy agos at y lan. Daliodd mewn cangen a thynnu ei hun allan gan adael i'w gwch a'i badl fynd dros y rhaeadr hebddo.
Yr ail oedd i mi fynd dros y 3ydd rhaeadr ar y chwith eithaf. Ran amlaf, mae hynna'n gweithio yn iawn ond y tro hwn doedd dim llawer o ddwr. O ganlyniad, stopiodd fy nghwch yn stond am eiliad ar y rhimyn cyn cwympo yn fertigol drosodd. Trawodd y gwaelod a throi drosodd. Rholiais i lan gan deimlo yn dwp a derbyn, yn raslon gobeithio, gwatwar pawb oedd o gwmpas.
Peint yn nhafarn Tai'r Bull ar y ffordd adre. Mae ar agor tan 3.30 ar Ddydd Sul nawr. Gwerth cofio.
Thursday, November 4, 2004
Afon Wysg, Tal-y-bont i Langynidr, Hydref 31
Monday, October 25, 2004
Penwythnos yn y gogledd
Es i'r gogledd y penwythnos diwethaf (23-24 Hydref), gan adael Caerdydd am 6.00 fore Dydd Sadwrn. Er gwaethaf tywydd gwael iawn yn y gogledd y diwrnod cynt, doedd lefel dwr Afon Mawddawch ger y Ganllwyd ddim yn uchel iawn ac fe benderfynom ar daith ar Afon Eden - o Bont-y grible - ac Afon Mawddach hyd at westy Tyn-y-groes. Daeth ffermwr atom a'n rhybuddio nad oeddem i fynd ar Afon Eden, ond gan nad oes hawl gan ganwyr i fynd ond ar lond dwrn o afonydd, dydy hynny ddim yn newydd. Roeddem yn lwcus - roedd e'n gwrtais ac yn gyfeillgar a dweud y gwir. Ac fe'n rhybuddiodd fod ffens ar draws yr afon. Beth bynnag, roedd y daith yn hwyl, er, yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn trafferthu mynd mor uchel â Phont-y-grible. Well o lawer rhoi i mewn ger canolfan Coed-y-brenin.
Dydd Sul ar Afon Ogwen. Lefel y dwr yn uwch na'r tro cyntaf i mi fynd ar yr afon cwpl o flynyddoedd yn ôl. Gradd 4 go iawn. Ar ôl gweld Alan S. yn troi drosodd ac yn nofio i lawr y "gun-barrel", penderfynais i a Colin E. beidio â rhoi cynnig ar y darn hwnnw, er i Haydn lwyddo. Nofiais i ymhellach ymlaen a chael fy nhynnu i'r lan gan Duncan E. Ac wedyn gorfod rholio ddwywaith ymhellach ymlaen! Taith wych, er fy mod wedi fy nghleisio yn weddol helaeth ac yn teimlo y diwrnod wedyn braidd fel petawn wedi bod mewn ffeit .
Monday, October 11, 2004
Afon Clywedog, Dydd Sul, 11 Hydref
Diwrnod bendigedig ddoe ar Afon Clywedog. Cefais lifft gyda Rob G. a chwrdd â John C. yn Llanidloes. Roedd yr argae yn gollwng ar raddfa o 510 megalitre y dydd, tipyn yn uwch na'r 400 megalitre a oedd pan ymwelais i ddiwethaf y llynedd. Wrth adael y car ar lan yr afon siaradom â cheufadwyr eraill, o ganolbarth Lloegr oedd newydd wneud y daith, a chlywsom fod clwb o Coventry ar eu ffordd i lawr yr afon. Gwelsom ddau o Henffordd ar y diwedd a gweld pedwar arall yn gorffen hefyd felly yn amlwg roedd yr afon yn brysur.
F'argraff i oeddd ei bod fymryn yn haws gyda 500 Ml na 400. Rhedais raeadr Bryn Tail yn llwyddiannus, heb daro fy mhenelin fel y llynedd, ac roedd yr ail raeadr yn ddibroblem, tra y llynedd roedd bron â chael fy mhinio. Hefyd, roedd tôn ffantasdig tua hanner ffordd- yr orau o bosibl i mi ei phrofi, o ran hwysustra i fynd arni, rhwyddineb ymsefydlogi arni a maint cymedrol.
Diwrnod llawn - gadael gartref am 9 a chyrraedd yn ôl tua 5.15. Gwych.
Thursday, October 7, 2004
Coredau Treforys, Hydref 3
Daeth y glaw yn rhy hwyr y penwythnos diwethaf i mi drefnu taith ar afon. Y cyfan allwn ei wneud oedd mynd ar sgowt. Fe es yr holl ffordd i Dreforys i weld sut beth yw'r coredau. Rhy bell am ddim llawer oedd fy nyfarniad, ond werth eu cadw mewn cof. Ceir disgrifiad ohonynt ar y ddolen ganlynol.
http://playak.com/article.php?sid=448
Newydd sylweddoli na wnes i ddim cofnodi i mi fynd ar Afon Taf - o Fynwent y Crynwyr i Drefforest - yr wythnos diwethaf. Cychwynnais yng nghwmni Clwb Canwio Caerdydd ond roedd nifer o ddechreuwyr gyda nhw a'r datith yn araf iawn o'r herwydd. Gadawais i a Rob G. a mynd ar ein pennau ein hunain ar ôl cored Abercynon. Roedd llawer o grëyr a glas-y-dorlan i'w gweld - fel arfer rhaid dweud.
Saturday, September 25, 2004
Moel Siabod
Roedd yr afonydd yn llifo y penwythnos diwethaf ond , unwaith eto, roeddwn yn y gogledd heb yr un canwydd yn gwmni i mi. Gollwng fy mab hynaf i ddechrau ei yrfa myfyriol ym Mangor oedd yr achos i mi fod yn y gogledd. Ta beth, ar ôl dyheu cael mynd ar Afon Ogwen, a syllu'n syfrdan ar ryferthwy Afon Lligwy wrth Bont Gyfyng, mynd i fyny Moel Siabod oedd fy ffawd yng nghwmni fy ail fab. Aethom i fyny'r crib yn y de-orllewin ac wedyn o'r copa mynd ar hyd y crib arall i'r gogledd-ddwyrain (gobeithio bod y cyfeiriadau gen i yn gywir). Gwych - dim cystal â cheufadio, ond gwych yr un fath.
Yn ystod yr wythnos wedyn, cefais fynediad i safle'r clwb rwyf yn ysgrifennydd iddo, sef Padlwyr y Ddraig.http://www. dragonpaddlers.org.uk. Gyda lwc, byddaf yn cael ei adnewyddu a chan nad yw hynny wedi digwydd ers tro, efallai y daw aelodau newydd yn ei sgîl.
Newydd geisio edrych ar maes-e: http://www. maes-e.com a gweld bod trychineb wedi taro. Mae wedi cau oherwydd rhyw fân gecru Gymreig. Gobeithio y gwelwn ei ail-agor yn fuan.
Darllenais heno hefyd am gynllun i sefydlu canolfan dwr gwyn yng Nghaerdydd. http://www.welsh-canoeing.org.uk/Mae gen i amheuon oherwydd aflendid dwr ond ni leisiaf fy marn ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'n gynllun cyffrous. A daw rhywbeth ohono sy'n beth arall.
Ac heno, cofrestrais yng Nghanolfan Ddringo Rhyngwladol Cymru, Taf Bargod. http://www.caerphilly.gov.uk/visiting/activities/welshinternationalclimbingcentre.htmTrwy ffawd daliais yn dynn yn y rhaff drwy'r nos a chafodd fy mab ddim anaf. (Uniaith Saesneg oedd y ffurflen gofrestru ac roedd y ferch wrth y dderbynfa yn meddwl fy mod yn cellweiro wrth ofyn oedd ganddynt un Gymraeg. Pam?)