Sunday, July 12, 2015
Teithiau Medi 2013 - Gorffennaf 2014
Mwmbls 8 Medi 2013
Es gyda John N. a Rob ar y daith hon, o'r Mwmbls i'r Pwll-du ac yn ôl. Yn anffodus ar y ffordd yn ôl aeth John i'r dŵr ddwywaith. Ymarfer achub defnyddiol.
Ynys Bŷr ~4 Hydref 2013
Dim ond Rob oedd gyda fi ar y daith hon. Cychwynnom o Ddinbych-y-pysgod a mynd clocwedd o gwmpas yr ynys. Cwrddom â Wanye a ffrind iddo pan oeddem yn croesi. Roedden nhw wedi gwersylla'r noson gynt ar draeth ar ollewin yr ynys. Cododd y gwynt wrth i ni fynd ymlaen ac roedd yn eitha garw yn troi yng nghornel de-orllewin yr ynys. NDE yn ôl Rob!
Ynys Echni 29 Medi 2013
Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd y gwynt o'r dwyrain a chyda llanw uchel hefyd roedd yn rhy arw i mi lanio ger y lanfa ar ddwyrain yr ynys. Es i draeth y gorllewin. Ar yr ynys roedd yn ddrwg gen i ddeall fod Matt y warden a gweddill y staff yn gadael ymhen pythefnos.
Pont Senni 20 Hydref 2013
Afon Cleddau 1 Tach 2013
Afon Ysgir ~Sul 11 Tach
Afon Afan 21 Rhag 2013
Wysg, Tal--bont ~5 Ion 2013
Ysgir ~ 3 Chwefror 2013
Traeth Mawr Porthclais 31 Mai
~16 Gorff Môn
Saturday, October 19, 2013
Yr Alban, 23-30 Awst 2013
Ar Ddydd Gwener, gyrrais i Fryste i gwrdd â Wayne am 08.30 ac fe adawom ei dŷ ryw dri chwarter awr wedyn, ond gyrru i siop offer ceufadio
http://www.canoeandkayakstore.co.uk/
cyn cychwyn ar y daith go iawn. Gyrru drwy'r dydd wedyn, gan rannu'r gyrru rhyngom, nes stopio am beint yn yr Oyster Inn ger pont Connell. Ymlaen â ni wedyn a chyrraedd y maes gwersylla i'r de o Oban tra oedd yn olau o hyd tua 19.00. Codi fy mhabell wedyn cyn mynd i gymdeithasu gyda'r 9 aelod o Glwb Ceufadio Gogledd Avon oedd yn ffurfio gweddill y criw.
Mae Ralph, hyfforddwr Clwb Ceufadio Gogledd Avon a drefnodd y teithiau uchod wedi ysgrifennu blog amdanynt, yma: http://www.northavoncanoeclub.org.uk/Trip-Reports/Sea-Kayaking-Trips/Scotland-2013 (ac rwyf wedi dwyn y llun cyntaf uchod o'i luniau a'i gynnwys yma eto).
Unwaith i ni droi'r gornel a dechrau padlo i'r dwyrain roedd fel llyn eto. Roedd y tywydd yn newid yn gyson: niwl yn clirio i awyr las ac yn ôl. Troion i mewn i aber i gael cinio ac wrth i ni setlo hedfanodd dau eryr i ffwrdd. Ar ôl cinio roedd nifer o ynysoedd a llawer o forloi. Stopion ni ger lanfa'r fferi, ymweld â bwthyn Sheila, a chael diod yn y caffi: coffi i mi a chwrw (wrth gwrs) i Wayne.
Bron yn ôl, padlon ni ymlaen eto ac roeddem bant o'r dŵr am tua 17.00. Darganfyddom fod y fferi olaf yn ôl i'r tir mawr yn gadael am 19.00. Gyrru i'r fferi a chyrraedd tua 18.40 a chael lle arno, er nad oeddem wedi bwcio lle. Gadael Oban am tua 20.15 a gyrru drwy'r nos gan gyrraedd yn ôl yng Nghaerdydd tua 06.00.
cyn cychwyn ar y daith go iawn. Gyrru drwy'r dydd wedyn, gan rannu'r gyrru rhyngom, nes stopio am beint yn yr Oyster Inn ger pont Connell. Ymlaen â ni wedyn a chyrraedd y maes gwersylla i'r de o Oban tra oedd yn olau o hyd tua 19.00. Codi fy mhabell wedyn cyn mynd i gymdeithasu gyda'r 9 aelod o Glwb Ceufadio Gogledd Avon oedd yn ffurfio gweddill y criw.
Diwrnod 1, Dydd Sadwrn: Taith o gwmpas Ynys Kerrera
https://www.google.co.uk/maps/ms?msa=0&msid=203412124956633915799.0004e4dedee0dd2311e2c&ie=UTF8&ll=56.397945,-5.538483&spn=0.102981,0.308647&t=m&z=12&vpsrc=1
| Castell Gylen ar ynys Kerrera https://en.wikipedia.org/wiki/Gylen_Castle |
![]() |
| Amser cinio |
![]() |
| Yr olygfa o Dŵr McCaig, Oban |
![]() |
| Yr olygfa o Graig y Pulpud, Oban |
Diwrnod 2: cylchdaith arall, o Oban, i lawr o dan Bont yr Iwerydd, heibio i Cuan, lan i Easdale ac yn ôl.
![]() |
| Pont dros yr Iwerydd |
Diwrnod 3: o Loch Etive i'r gwersyll
Mae Ralph, hyfforddwr Clwb Ceufadio Gogledd Avon a drefnodd y teithiau uchod wedi ysgrifennu blog amdanynt, yma: http://www.northavoncanoeclub.org.uk/Trip-Reports/Sea-Kayaking-Trips/Scotland-2013 (ac rwyf wedi dwyn y llun cyntaf uchod o'i luniau a'i gynnwys yma eto).
Diwrnod 4: Ynys Iona
Roedd yn eitha hwyr erbyn i ni gyrraedd Fidden, gyferbyn ag Ynys Iona. Erbyn codi'n pebyll a pharatoi'r cychod, roedd yn chwe o'r gloch arnom yn mynd ar y dŵr. Gydag amcangyfrif wedi ei seilio ar y daith a gofnodwyd yn y llyfr teithiau ceufadio'r Alban, sef naw milltir i fynd o gwmpas ynys Iona, gallem ddisgwyl y byddai'n naw o'r gloch cyn i ni fod yn ôl - a byddai'n tywyllu erbyn hynny. Heblaw un stop yn syth wedi i ni groesi i'r ynys i Wayne wisgo cag, ni stopion ni. Roedd yn arw ar ochr orllewinol yr ynys ac roeddwn yn ddigon balch pan welais yr ynys fawr o'n blaen eto. Er i ni geisio talu sylw ar gychwyn y daith fel y byddem yn adnabod ein man cychwyn, roeddwn yn dibynnu ar y GPS, er nad oedd yn hollol dywyll, i ddod o hyd i'r man o ble roeddem wedi cychwyn.| Mynd heibio i fynachdy Iona |
https://www.google.co.uk/maps/ms?msa=0&msid=203412124956633915799.0004e530b8b9e6de8850b&ie=UTF8&t=m&z=13&vpsrc=1
Erbyn i ni gyrraedd y gwersyll roedd yn dywyll go iawn.
![]() |
| Yr olygfa wedi cyrraedd yn ôl i'r gwersyll |
![]() |
| Golygfa wrth adael y gwersyll y diwrnod wedyn |
Diwrnod 5: i Staffa ac wedyn i Gometra.
Roedd yn eithaf garw wrth fynd heibio i i Ynys Colonsay Fach a ni'n padlo i mewn i wynt F4. Pan gyrhaeddom y cei ar Staffa cerddon ni i mewn i'r ogof gerllaw gan feddwl taw honna oedd ogof Fingal, gan mai dyna ddangoswyd ar y map. (Wedi dod adre, sylweddolais taw'r ogof nesaf, am y gornel, oedd ogof Fingal. Gan fod y môr mor arw, byddem ni wedi methu padlo i mewn i honna beth bynnag). Gwelsom ddau heulforgi yn nofio o gwmpas cwch hwylio ddaeth i angori ger y cei. Ar ôl cerdded i ben yr ynys, aethom allan at un o'r morgwn nes ein bod o fewn ryw bedair llathen iddo.| Staffa |
Roedd yn arw wrth i ni badlo ar hyd ochr orllewinol Staffa.
Wrth i ni nesáu at Gometra, gwelom ddyffryn a dyfalu y byddai traeth wrth ei droed ac wedi mynd yn nes eto, dealll ein bod yn gywir wrth iddo ddod yn amlwg bod traeth tywod yno.
Wrth i ni nesáu at Gometra, gwelom ddyffryn a dyfalu y byddai traeth wrth ei droed ac wedi mynd yn nes eto, dealll ein bod yn gywir wrth iddo ddod yn amlwg bod traeth tywod yno.
Diwrnod 6: o Gometra yn ôl
Roeddem yn sylweddoli yn y bore y gallem fod wedi cael ein dal ar y traeth pe bai'r syrff wedi codi'n fwy dros nos. Roedd ambell set gweddol o faint yn dod i mewn. Unwaith i ni gyrraedd arfordir gorllewin yr ynys roedd y môr yn eitha garw. Es i ymhellach o'r lan ond parhaodd Wayne i fynd yn weddol agos at y creigiau. Daeth un don i mewn a bron iawn â'i ddal!Unwaith i ni droi'r gornel a dechrau padlo i'r dwyrain roedd fel llyn eto. Roedd y tywydd yn newid yn gyson: niwl yn clirio i awyr las ac yn ôl. Troion i mewn i aber i gael cinio ac wrth i ni setlo hedfanodd dau eryr i ffwrdd. Ar ôl cinio roedd nifer o ynysoedd a llawer o forloi. Stopion ni ger lanfa'r fferi, ymweld â bwthyn Sheila, a chael diod yn y caffi: coffi i mi a chwrw (wrth gwrs) i Wayne.
![]() |
| Yr olyfga o'r gwersyll: Staffa ar y dde |
![]() |
| Wayne'n tynnu ei babell i lawr. |
Tuesday, October 15, 2013
Ynys Echni. Dydd Sul 29 Medi 2013
Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd yn F3-4 o'r dwyrain ac er ei fod yn llanw bach (8.4m) roedd y gwynt yn codi'r tonnau fel bod y daith i'r ynys yn eithaf garw. Pan gyrhaeddais ceisiais lanio ar y traeth ger y jeti fel arfer ond roedd yn rhy arw. Glaniais a thynnu'r spraydeck ond fe'm daliwyd gan y don nesaf a thynnwyd y cwch yn ôl i'r môr. Rhoddais y ffedog yn ôl yn ei le'n sydyn a rhoi'r gorau i'r ymdrech. Padlais yn ôl y ffordd yr oeddwn wedi dod, ar hyd ochr ogleddol yr ynys, a glanio ar y traeth caregog ar yr ochr orllewinol. Ces damaid i fwyta fan honno cyn crwydro lan i'r ffermdŷ a mynd i mewn. Gwyddwn fod pobl yno'n syth gan fod bwyd poeth yn sefyll ger y stôf ond er gweiddi helo ddaeth neb. Es allan eto a mynd tua'r drws cefn a chwrdd â Matt yr warden oedd yn dod i chwilio am y llais.
Es i mewn i'r ffermdŷ gyda Matt, a chwrdd â'r unig wirfoddolwr oedd ar ôl ar yr ynys, Harriet. Roeddwn wedi darllen ar Twitter yn ddiweddar fod y gweddill wedi ymadael â'r ynys. Eglurodd Matt y bydden nhw hefyd yn ymadael ymhen un diwrnod ar bymtheg gan fod y cyngor yn cau'r ganolfan. Mae Matt wedi bod ar yr ynys ers pum mlynedd ac fe fyddaf yn gweld ymweld â'r ynys heb gwrdd ag e yno yn chwith iawn. Yn ffodus iddo, mae wedi cael swydd arall, ar ynys arall, ynys Walney yng ngogledd Lloegr. Efallai y dylwn ymweld ag e yno rywbryd.
Es am dro o gwmpas yr ynys a gweld llawer o gwningod. Rhaid fod y myxomatosis ar drai yno eto.
Ar y ffordd yn ôl roedd hi'n daith haws o lawer gyda'r gwynt ar fy nghefn a'r tonnau wedi diflannu bron yn llwyr. Taith wych unwaith eto.

Sunday, September 29, 2013
Y Mwmbls - Pwlldu, 8 Medi 2013
Cofnodais yr hanes yn Saesneg ar flog Padlwyr y Ddraig: http://dragon-paddlers.blogspot.co.uk/2013/09/mumbles-pwlldu-sunday-8-september-2013.html
Sunday, September 1, 2013
Moelfre, Dydd Sadwrn 10 Awst 2013
Es o Draeth Bychan at Ddulas ac yn ôl. Roedd yn ddiwrnod agored y RNLI ym Moelfre a llawer o gychod o gwmpas. Trydarais: 'A'm maddeuo, wedi achub beiciwr modur dŵr gwympodd oddi ar ei feic ger Moelfre heddiw. Gas gen i feiciau modur dŵr.' https://twitter.com/hywelm/status/366227242143072256
Aberporth i Boppit, Dydd Mercher 7 Awst 2013
Padlais gyda Colin a Sue a Derek. Doedd hi ddim yn dwym iawn ac angen cag llwys byr arnaf. Gofynnodd menyw i mi a oedd ein ceufadio ar gael i'w llogi yn y Mwnt!
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e48fd808c8f85bb0e&msa=0&ll=53.34676,-4.568853&spn=0.007494,0.01929
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e48fd808c8f85bb0e&msa=0&ll=53.34676,-4.568853&spn=0.007494,0.01929
Porth Swtan, Dydd Sul 21 Gorff. 2013
Roeddwn wedi mynd i Borth Swtan gan feddwl mynd o gwmpas Trwyn Cemlyn ond roeddwn wedi gwneud smonach o gyfrifo'r llanw a phan gyrhaeddais roedd y llanw wedi troi i'r gogledd yn barod. Erbyn i mi nesáu at Ynys y Mydlyn roedd yn llifo'n gryf. Troais yn ôl tra oeddwn i'n gallu. Es i lawr heibio i Borth Swtan hyd at ac heibio i'r creigiau i'r de cyn dychwelyd i'r dechrau.
Sir Benfro, Dydd Sul 14 - Llun 15 Gorff., 2013
Es i lawr i Sir Benfro ar fy mhen fy hun y tro hwn. Gwersyllais yn Hendre Einon nos Sadwrn ac ar Ddydd Sul es o gwmpas Ynys Dewi gan gychwyn a gorffen ym Mhorth Clais. Er ei fod yn neap, roedd y llif yn symud ar gyflymder o 8knt wrth i mi fynd o gwmpas gwaelod yr ynys.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb7fc53ff0c5296&msa=0
Dydd Llun es o Abergwaun i Gwm yr Eglwys ac yn ôl, a hynny yn y niwl yr holl ffordd. Dyma lun o Gastell y Corwynt: http://twitpic.com/d2yphd
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb7bd0b108bbf21&msa=0

Sir Benfro, Dydd Gwener 5 Gorff - Sul 7 Gorff., 2013
Es i gwrdd â Colin a Sue a Dr Mike fore Dydd Gwener 5 Gorff. yn fferm West Hook, Martin's Haven, i badlo o gwmpas Ynysoedd Skomer a Skokholm. Cwrdd am 11 ac roeddem yn anelu bod ar y dŵr tua 1 o'r gloch. Dydd Gwener oedd y diwrnod cyntaf i gael gwynt teg ers sbel ac o ganlyniad roedd y môr yn eithaf garw o hyd pan aethom o gwmpas Skokholm. Erbyn i ni gyrraedd y gornel ar Skokholm cyn cychwyn yn ôl daeth niwl i mewn. Yn ffodus, doedd e ddim mor drwchus fel na allom weld tua 200m ac o ganlyniad roeddem yn gallu gweld y creigiau yn y môr o'n blaen wrth ddod o gwmpas y gornel.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb68034016d8dea&msa=0&ll=51.718946,-5.280476&spn=0.062213,0.154324
Tynnais lun o Skomer gda'r hwyr. http://twitpic.com/d10cfp/full
Aeth Dr Mike adre Dydd Gwener a dim ond y tri ohonom oedd ar ôl Dydd Sadwrn. Aethom o Martin's Haven i Sain Ffrêd.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb61eb2a98bac8b&msa=0&ll=51.755196,-5.208721&spn=0.062163,0.154324
Ar y Dydd Sul, es ar fy mhen fy hun i Sain Ffrêd eto, ond gan ddechrau o'r Hafan Gul.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004e1eb6f0dff5c70fbc&msa=0&ll=51.764972,-5.147438&spn=0.06215,0.154324
Ar draeth Sain Ffrêd cwrddais â dyn oedd ar fin gadael yn ei geufad. Ces wybod mai Simon Ford oedd ei enw a'i fod yn hyfforddi i geufadio ar ei ben ei hun o gwmpas Cymru, gan godi arian at ysbyty Felindre. Newydd ddarllen ei stori ydw i yma: http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/sponsored-kayak-challenge-held-memory-5318874
http://www.justgiving.com/LookingOutForLinda
Des o hyd i'r adroddiadau canlynol amdano hefyd:
http://www.mayberrykayaking.co.uk/looking-out-for-linda/
http://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fbhttp://www.seakayaking-adventures.com/2013/08/simons-exped-training.html?spref=fb
Ar ôl i mi gael tamaid o bicnic cychwynnais i ffwrdd a dal lan gyda Simon. Roedd y gwynt wedi codi i F3 i'n hwyneb ar y ffordd yn ôl. Pan gyrhaeddom yr Hafan Gul eto, sylweddolais fod y dŵr yno'n dwym a chydiais yn y cyfle i ymarfer rôl (x2) a mynd allan o'r cwch, mynd yn ôl iddo a rolio - i gyd yn llwyddiannus. Ac fe es am goffi gyda Simon wedyn a dymuno'n dda iddo am ei daith.

Monday, June 24, 2013
Fferi Burton i Hwlffordd, Dydd Sadwrn, 22 Mehefin 2013
Roedd pedwar ohonom, fi, John N., Grant ac Emlyn wedi mynd i aros dros y penwythnos yn fflat John yn yr Hafan Gul. Wedi gwylio'r Llewod yn curo Awstrali yn nhafarn y Castell yn y bore, gyda gwynt F6 a chwaon F7 o'r de orllewin wedi eu rhagweld doedd dim dewis yn Sir Benfro mewn gwirionedd ond taith ar afon Cleddau.
Cychwynom o Fferi Burton (ger Tafarn y Jolly Sailor), tua 16.20, rhy hwyr mewn gwirionedd, llai na thair awr cyn penllanw (roedd y distyll am 13.00). (Tri diwrnod cyn Springs 7.4m). Cawsom y gwynt ar ein cefnau am ran helaeth o'r daith ond gwyrodd y gwynt i'r gorllewin ac roedd yn ein hwynebau wrth i ni fynd heibio i Hook. Cyrhaeddom Hwlffordd a phenllanw newydd fod ac roedd modd i ni badlo i lanio ar wair ar ochr dde'r afon. Ystadegau'r daith: 11.5 milltir y tir, 2 awr 54 munud. Cyflymder cymedrig: 3.97 milltir yr awr, cyflymder uchaf 7.46 milltir yr awr.
Map Google o'r daith
Cawsom bryd da yn y Jolly Sailor pan gyrhaeddom yn ôl yn Fferi Burton i godi'r car oedd wedi ei adael yno.

Tuesday, June 18, 2013
Porth Dafarch - Rhoscolyn ac yn ôl, Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2013
Tywydd gwych: haul a gwynt ysgafn o'r gogledd. Teithiais gyda'r llanw a'r gwynt ar fy nghefn i Borthwen, Rhoscolyn, heibio i Ynysoedd Gwylanod, ac ar ôl ciniawa ym Mhorthwen teithiais yn ôl gan gadw'n nes at lan y môr i ymweld â'r Bwa Gwyn a'r Bwa Du yn benodol.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004deb51910994677df1&msa=0
12.3 milltir (y tir), Cymerodd 3 awr 47 munud.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004deb51910994677df1&msa=0
12.3 milltir (y tir), Cymerodd 3 awr 47 munud.
Gwyliau yn yr Alban, Dydd Llun 20 Mai - Dydd Mawrth 28 Mai 2013
Dydd Llun
Roedd y tywydd wedi bod yn braf ers Dydd Sadwrn ac er nad y rhagolygon yn arbennig penderfynais y byddwn yn cychwyn ar Ddydd Llun. Gadael Caerdydd tua 09.45, cyrraedd Skye tua 22.00. Codi pabell yng ngwersyll Ashaig: http://www.ashaig-campsite-skye.co.uk/index.shtml
Dydd Mawrth
Gan fod y rhagolygon yn dweud y byddai'r gwynt yn codi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen roeddwn yn awyddus ceufadio yn syth. Dewisais geufadio o Elgol i Ynys Soay.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddafb5278a8c9768&msa=0
Sgowtais o gwmpas Heasta gyda'r nos, gan ystyried lle awn i geufadio ar Ddydd Mercher.
Dydd Mercher.
Roedd yn braf ond yn rhy wyntog i geufadio felly gyrrais o gwmpas Trotternish.
Es i noson werin yn Neuadd Pentref Breacais gyda'r nos. Roedd hen bâr o Indiaid Cree yn perfformio, y teulu Cheechoo. Dyma fideo ohonynt mewn digwyddiad arall: http://www.youtube.com/watch?v=x-d5zlRwXgs Roedd y ffidlwr Ronan Martin yn berfformiwr arall oedd yno.
Roedd y tywydd wedi bod yn braf ers Dydd Sadwrn ac er nad y rhagolygon yn arbennig penderfynais y byddwn yn cychwyn ar Ddydd Llun. Gadael Caerdydd tua 09.45, cyrraedd Skye tua 22.00. Codi pabell yng ngwersyll Ashaig: http://www.ashaig-campsite-skye.co.uk/index.shtml
![]() |
| Loch Lomond |
![]() |
| Loch Lomond |
![]() |
| Loch Lomond |
Dydd Mawrth
Gan fod y rhagolygon yn dweud y byddai'r gwynt yn codi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen roeddwn yn awyddus ceufadio yn syth. Dewisais geufadio o Elgol i Ynys Soay.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddafb5278a8c9768&msa=0
![]() |
| Fy nghwch ar Ynys Soay (o flaen yr hen ysgoldŷ) |
![]() |
| Heasta |
Dydd Mercher.
Roedd yn braf ond yn rhy wyntog i geufadio felly gyrrais o gwmpas Trotternish.
![]() |
| Storr, Trotternish |
![]() |
| Castell Duntulm |
![]() |
| Ronan Martin |
Dydd Iau
Cefais ail noson wyntog yn y babell nos Fercher, pan gododd i Force 7 efallai. Penderfynais fod rhaid i mi chwilio am rywle arall i aros. Roeddwn wedi gobeithio gyrru i Applecross ond roedd wedi bwrw eira ac yn niwl yn y bore. Penderfynais fynd i sgowtio Plockton a Loch Carron. Ar ôl gyrru o gwmpas Skye weddill y dydd dychwelais gyda'r nos i aros mewn bync-hws yno: http://www.plockton.com/accommodation/bunkhouses/station_bunkhouse.shtml
Dydd Gwener
Dihuno yn y bore a gweld ei fod yn ddiwrnod bendigedig. Padlais o gei Plocktoon i'r gorllewin, gan weld dau ddwfrgi. Dim ond rhyw 6 milltir o daith ond un arbennig o braf: https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddb266f0b00d74b2&msa=0
Cyrhaeddais Sabhal Mor Ostaig tua 16.00.
Dydd Sadwrn
Ymunais â'r daith oedd yn mynd o Tarscabhaig o gwmpas Trwyn Sleat yn ôl i'r coleg. Roedd y gwynt yn codi wrth i'r daith fynd yn ei blaen ac roedd yn eithaf garw wrth inni fynd heibio i'r Trwyn.
Dydd Sul
Dewisiais i beidio ag ymuno ar daith: roedd un i Loch Nevis a'r llall i Ynys Soay. Mynychais sesiynau sgiliau yn lle.
Dydd Llun
Ymunais â'r daith a oedd yn mynd o'r coleg i Kyleakin, taith o 19 milltir.
Dydd Mawrth
![]() |
| Plockton |

| Camas Darach, i'r dwyrain o'r trwyn |
Dydd Llun
Ymunais â'r daith a oedd yn mynd o'r coleg i Kyleakin, taith o 19 milltir.
![]() |
| Ar Eilean Sionnach ger Ornsay |
![]() |
| Ar Eilean Sionnach ger Ornsay |
Gadewais tua 9 y bore a chyrraedd adre tua 24.00.
Ynys Echni, Dydd Mercher, 1 Mai 2013
Afon Tywi, Dydd Sadwrn, 6 Ebrill
Taith ar y môr ac Afon Tywi oedd hon: o Lansteffan i Gaerfyrddin ac yn ôl, gyda Chris a'r Eades. Cychwynnom o'r clwb hwylio ychydig i fyny'r afon o Lansteffan: Clwb Cychod Tywi. Roedd Sue wedi cysylltu â nhw i sicrhau ein bod yn cael lansio yno. Cafodd Colin a fi baned a chawl ganddynt am ddim ganddynt ar ddiwedd y dydd hefyd. Diolch.
![]() |
| Colin ar lan Afon Tywi yng Nghaerfyrddin |
Llanilltud Fawr - Aberogwr, Dydd Sadwrn, 16 Chwefror 2013
Trefnais y daith hon gyda Rob, Emlyn, Paul, Chris, a Jim. Y cynllun oedd: penllanw tua 10.15. Cwrdd yn Aberogwr tua 10.30, bod ar y dŵr yn Llanilltud tua 11.45 a chyrraedd Aberogwr tua 14.30. Roeddem lawer yn hwyrach na hynny. Yn gyntaf, pan oeddem bron yn barod i gychwyn sylweddodd Rob nad oedd spraydec ganddo. Aeth i dŷ Chris i nôl un. Wedyn, meddylion y byddai'n syniad mynd i graig Tusker ond roeddem yn rhy gynnar. Oedon ni'n hir ym mae Dwnrafn felly'n syrffio ar donnau bach (roedd yn ddiwrnod braf er braidd yn wyntog pan oeddem yn newid ar y dechrau yn Aberogwr).
Taith braf.
Taith braf.
Ynys Echni, Dydd Sul, 6 Ionawr
Roeddwn wedi bwriadu mynd i'r ynys ar fy mhen fy hun ond pan gyrhaeddais Swanbridge cwrddais â Jim a dau arall, Kevin a John Cooke. Ar y ffordd yn ôl fe drodd John drosodd a bu'n rhaid i mi ei achub.
Monday, June 10, 2013
Afon Ogwr, Dydd Mercher 2 Ionawr 2013
Taith gyntaf y flwyddyn. Es gyda Nige a oedd yn arwain, gan roi i mewn yn is i lawr yr afon - ym Mrynmenyn os cofiaf yn iawn - gan orffen ger y ganolfan hamdden yng nghanol y dref. Roedd lefel y dŵr yn ganolig a chafwyd amser digon dymunol (a'r afon ddim yn drawiadol o drewllyd).
Ynys Echni, Dydd Sul 18 Tachwedd
Roedd y rhagolygon yn dda. Methais â threfnu cwmni felly es ar fy mhen fy hun. Pan gyrhaeddais Swanbridge roedd 3 char arall oedd yn amlwg yn geir ceufadwyr yno'n barod (am 08.20). Roedd i fod yn benllanw am 09.49 ac fe adewais am 08.55. Pan gyrhaeddais y traeth ces fy synnu i weld nad oedd traeth o gwbl - roedd yn llanw mawr (11.4m). Roeddwn wedi sylwi ei fod yn spring ond heb sylwi ar ei faint. Cwrddais â thri o'r wardeniaid gwirfoddol ar yr ynys: - merch o Gumbria a bechgyn o Gernyw a Reading - oedd newydd fod yn cyfrif adar. Es draw at y goleudŷ a gweld pedwar ceufadiwr yn dod o Ynys Rhonech. Cerddais yn ôl at fy nghwch a sylweddoli taw Eurion, Stuart, Taran a Jules oedd y pedwar.
Tynnais gwpl o luniau a phostio un ar Twitter: http://t.co/2yEuvFnD ond mae rhai Stuart, Taran a Jules lawer yn well! http://seakayaking-stuart.blogspot.co.uk/2012/11/beyond-holms.html
http://www.seakayaking-adventures.com/2012/11/breaking-dawn.html
http://welshrandomadventures.blogspot.co.uk/2012/11/voyage-of-dawn-treaders.html

Afon Ysgir, Dydd Sul, 11 Tachwedd
DIm ond John C. a Gareth y tro hwn, a llai o ddŵr na'r wythnos gynt, ac roeddem yn crafu ein ffordd i lawr.
Subscribe to:
Posts (Atom)