cyn cychwyn ar y daith go iawn. Gyrru drwy'r dydd wedyn, gan rannu'r gyrru rhyngom, nes stopio am beint yn yr Oyster Inn ger pont Connell. Ymlaen â ni wedyn a chyrraedd y maes gwersylla i'r de o Oban tra oedd yn olau o hyd tua 19.00. Codi fy mhabell wedyn cyn mynd i gymdeithasu gyda'r 9 aelod o Glwb Ceufadio Gogledd Avon oedd yn ffurfio gweddill y criw.
Diwrnod 1, Dydd Sadwrn: Taith o gwmpas Ynys Kerrera
https://www.google.co.uk/maps/ms?msa=0&msid=203412124956633915799.0004e4dedee0dd2311e2c&ie=UTF8&ll=56.397945,-5.538483&spn=0.102981,0.308647&t=m&z=12&vpsrc=1
Castell Gylen ar ynys Kerrera https://en.wikipedia.org/wiki/Gylen_Castle |
Amser cinio |
Yr olygfa o Dŵr McCaig, Oban |
Yr olygfa o Graig y Pulpud, Oban |
Diwrnod 2: cylchdaith arall, o Oban, i lawr o dan Bont yr Iwerydd, heibio i Cuan, lan i Easdale ac yn ôl.
Pont dros yr Iwerydd |
Diwrnod 3: o Loch Etive i'r gwersyll
Mae Ralph, hyfforddwr Clwb Ceufadio Gogledd Avon a drefnodd y teithiau uchod wedi ysgrifennu blog amdanynt, yma: http://www.northavoncanoeclub.org.uk/Trip-Reports/Sea-Kayaking-Trips/Scotland-2013 (ac rwyf wedi dwyn y llun cyntaf uchod o'i luniau a'i gynnwys yma eto).
Diwrnod 4: Ynys Iona
Roedd yn eitha hwyr erbyn i ni gyrraedd Fidden, gyferbyn ag Ynys Iona. Erbyn codi'n pebyll a pharatoi'r cychod, roedd yn chwe o'r gloch arnom yn mynd ar y dŵr. Gydag amcangyfrif wedi ei seilio ar y daith a gofnodwyd yn y llyfr teithiau ceufadio'r Alban, sef naw milltir i fynd o gwmpas ynys Iona, gallem ddisgwyl y byddai'n naw o'r gloch cyn i ni fod yn ôl - a byddai'n tywyllu erbyn hynny. Heblaw un stop yn syth wedi i ni groesi i'r ynys i Wayne wisgo cag, ni stopion ni. Roedd yn arw ar ochr orllewinol yr ynys ac roeddwn yn ddigon balch pan welais yr ynys fawr o'n blaen eto. Er i ni geisio talu sylw ar gychwyn y daith fel y byddem yn adnabod ein man cychwyn, roeddwn yn dibynnu ar y GPS, er nad oedd yn hollol dywyll, i ddod o hyd i'r man o ble roeddem wedi cychwyn.Mynd heibio i fynachdy Iona |
https://www.google.co.uk/maps/ms?msa=0&msid=203412124956633915799.0004e530b8b9e6de8850b&ie=UTF8&t=m&z=13&vpsrc=1
Erbyn i ni gyrraedd y gwersyll roedd yn dywyll go iawn.
Yr olygfa wedi cyrraedd yn ôl i'r gwersyll |
Golygfa wrth adael y gwersyll y diwrnod wedyn |
Diwrnod 5: i Staffa ac wedyn i Gometra.
Roedd yn eithaf garw wrth fynd heibio i i Ynys Colonsay Fach a ni'n padlo i mewn i wynt F4. Pan gyrhaeddom y cei ar Staffa cerddon ni i mewn i'r ogof gerllaw gan feddwl taw honna oedd ogof Fingal, gan mai dyna ddangoswyd ar y map. (Wedi dod adre, sylweddolais taw'r ogof nesaf, am y gornel, oedd ogof Fingal. Gan fod y môr mor arw, byddem ni wedi methu padlo i mewn i honna beth bynnag). Gwelsom ddau heulforgi yn nofio o gwmpas cwch hwylio ddaeth i angori ger y cei. Ar ôl cerdded i ben yr ynys, aethom allan at un o'r morgwn nes ein bod o fewn ryw bedair llathen iddo.Staffa |
Roedd yn arw wrth i ni badlo ar hyd ochr orllewinol Staffa.
Wrth i ni nesáu at Gometra, gwelom ddyffryn a dyfalu y byddai traeth wrth ei droed ac wedi mynd yn nes eto, dealll ein bod yn gywir wrth iddo ddod yn amlwg bod traeth tywod yno.
Wrth i ni nesáu at Gometra, gwelom ddyffryn a dyfalu y byddai traeth wrth ei droed ac wedi mynd yn nes eto, dealll ein bod yn gywir wrth iddo ddod yn amlwg bod traeth tywod yno.
Diwrnod 6: o Gometra yn ôl
Roeddem yn sylweddoli yn y bore y gallem fod wedi cael ein dal ar y traeth pe bai'r syrff wedi codi'n fwy dros nos. Roedd ambell set gweddol o faint yn dod i mewn. Unwaith i ni gyrraedd arfordir gorllewin yr ynys roedd y môr yn eitha garw. Es i ymhellach o'r lan ond parhaodd Wayne i fynd yn weddol agos at y creigiau. Daeth un don i mewn a bron iawn â'i ddal!Unwaith i ni droi'r gornel a dechrau padlo i'r dwyrain roedd fel llyn eto. Roedd y tywydd yn newid yn gyson: niwl yn clirio i awyr las ac yn ôl. Troion i mewn i aber i gael cinio ac wrth i ni setlo hedfanodd dau eryr i ffwrdd. Ar ôl cinio roedd nifer o ynysoedd a llawer o forloi. Stopion ni ger lanfa'r fferi, ymweld â bwthyn Sheila, a chael diod yn y caffi: coffi i mi a chwrw (wrth gwrs) i Wayne.
Yr olyfga o'r gwersyll: Staffa ar y dde |
Wayne'n tynnu ei babell i lawr. |